Dewislen
English
Cysylltwch

Jan Morris 1926 – 2020

Cyhoeddwyd Llu 23 Tach 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Jan Morris 1926 – 2020

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth yr awdur a’r newyddiadurwraig nodedig Jan Morris yn ddiweddar. Roedd hi’n ffigwr dylanwadol iawn yn rhyngwladol ac yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o awduron a darllenwyr yng Nghymru a thu hwnt.  

Roedd nifer ohonom yn Llenyddiaeth Cymru wedi cael y fraint o ddod i’w hadnabod yn bersonol, ac roedd hi’n gymdoges agos iawn i ni yn Nhŷ Newydd. Dirprwy Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Elizabeth George, oedd un o’r rhai oedd yn ei adnabod yn dda: 

“Cefais y pleser o adnabod Jan Morris drwy gydol fy mywyd gan ei bod hi ac Elizabeth yn ffrindiau gyda’m rhieni. Yn wir, mae gen i atgof clir iawn ohonynt yn dod draw am swper i Garthcelyn ar ddechrau’r saithdegau ac yn gorfod brysio adref ar ôl pwdin (a gêm hwyliog iawn o ping pong!) i wylio cyfres The British Empire y BBC gan fod Jan ar ganol ysgrifennu’r drioleg enfawr Pax Britannica ar y pryd. Fel merch deg oed, prin y gwyddwn yr adeg hynny mod i wedi cael cipolwg bychan ar greadigaeth Heaven’s CommandAn Imperial Progress! 

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi bod yn ymwelydd cyson yn Nhrefan Morys. Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, lawr y lôn o Drefan Morys, yn agos iawn at fy nghalon oherwydd rhesymau teuluol ac fel un o ymddiriedolwyr Llenyddiaeth Cymru. Mae Jan Morris wedi bod yn gyfaill hynod o driw a charedig i Dŷ Newydd dros y blynyddoedd a phrin oedd blwyddyn yn mynd heibio heb iddi gyfrannu a chyfranogi mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. 

Yn Nhrefan Morys roedd y croeso bob amser yn gynnes a’r sgwrsio yn union run fath â’i chyfrolau dyddiadurol In My Mind’s Eye Thinking Again yn crwydro o le i le ac at yr hyn a’r llall. Pleser pur oedd eistedd yno yn sgwrsio, wedi fy amgylchynu â’i llyfrgell hynod a’r creiriau rhyfeddol o’i theithiau. Un o’m hoff gyfrolau gan Jan ydi Writers House In Wales ac mae’n chwith iawn meddwl am Drefan Morys heb yr awdur, bydd hiraeth mawr ar ei hôl. Cydymdeimlad dwysaf at Elizabeth, Twm a’r teulu oll.”

Ychwanegodd Kate North, Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru: 

“Gydag ymadawiad Jan Morris, rydym yn colli arloeswraig ac un o’n llenorion pwysicafDyma awdures gwbl ddiffuant a fu’n dyst i hanes hir, yn ogystal â bod yn unigolyn nodedig a lwyddodd i greu, a gadael o’i hôl, ei hanes pwerus ei hun. Mae Cymru wedi derbyn etifeddiaeth lenyddol gyfoethog a bendigedig drwy waith Jan, a bydd ei effaith yn bellgyrhaeddol am genedlaethau i ddod.”

Estynnwn ein cydymdeimladau dwysaf at Elizabeth, Twm a’r teulu cyfan.  

 

Ceir detholiad o’r teyrngedau a gyhoeddwyd dros y penwythnos islaw: 

Nation.Cymru

BBC

The New York Times

The Guardian