Dewislen
English
Cysylltwch

Lansio Ffrindiau Tŷ Newydd

Cyhoeddwyd Iau 28 Mai 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Lansio Ffrindiau Tŷ Newydd
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy.
Rydym wrth ein boddau o gael lansio Ffrindiau Tŷ Newydd ac yn estyn gwahoddiad cynnes i chi ymuno â ni a helpu cynnal Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd.

I gydnabod eich cefnogaeth, bydd ein Ffrindiau yn derbyn amrywiaeth o fuddion, gan gynnwys cyfle i archebu cyrsiau cyn i’r rhaglen gael ei lansio, cynigion arbennig, gostyngiadau gan ein partneriaid, a chyngor ’sgwennu gan rhai o diwtoriaid Tŷ Newydd.

Ers ei sefydlu fel Canolfan Ysgrifennu ym 1990, mae miloedd o awduron wedi camu drwy ein drws gwyrddlas eiconig – o feirdd cenedlaethol a llenorion arobryn i egin nofelwyr a dechreuwyr talentog. Mae’n amhosib cyfrif faint ohonynt sy’n cydnabod cyfraniad Tŷ Newydd at eu datblygiad fel awdur.

Yma cawn encilio o’r byd, 
ar ororau’r tir a’r tonnau; 
mewn tŷ hen, ar odre hanes, 
a’r coed yn anwes amdano. 

Ffydd, a ysgrifennwyd gan gyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i ddathlu 30 mlynedd o Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Yn ystod hanes hir, cyfoethog yr adeilad, bu’n gartref i sawl un, gan gynnwys yr unig Gymro fu’n Brif Weinidog Prydain, David Lloyd George, a gomisiynodd Syr Clough Williams-Ellis i ail-greu ffasâd y tŷ a rhannau mewnol, gan gynnwys creu’r llyfrgell drawiadol, gyda’i ffenestri bwa a’r nenfwd crwn. Gallwch ddarllen rhagor am hanes y tŷ ar ein gwefan. 

Mae’r fraint o ofalu am Dŷ Newydd, yn dod â nifer o gyfrifoldebau. Mae’n costio dros £400,000 bob blwyddyn i gadw’r drysau ar agor, i gynnal yr adeiladau a thiroedd rhestredig Gradd II*, ac i gynnal ein rhaglen, a gyda thoriadau i’r pwrs cyhoeddus yn parhau ochr yn ochr â chostau cynyddol, mae’n her barhaus i godi’r arian hwn.

Mae incwm yn sgil ffioedd cyrsiau a llogi’r lleoliad yn mynd yn bell tuag at ateb y gost hon, a phob tro y byddwch chi’n archebu cwrs neu encil, rydych yn helpu i gynnal Tŷ Newydd. Ond pe byddai ffioedd ein cyrsiau yn adlewyrchu gwir gost rhedeg Tŷ Newydd, byddent yn rhwystro’r rhan fwyaf i fynychu, ac fel elusen rydym yn ymrwymo i fod mor hygyrch a chynhwysol â phosib.

Mae hyn yn golygu fod diffyg ariannol hyd yn oed gyda rhaglen sy’n gwerthu’n llawn, ac mae angen i ni godi £110,000 yn ychwanegol bob blwyddyn drwy roddion a grantiau i ateb y diffyg ariannol hwn.

Bydden ni yn ddiolchgar dros ben pe byddech chi’n ystyried ymuno â’n rhaglen Ffrindiau, gyda’r pris yn dechrau o gyn lleied â £4 y mis. Bydd eich rhodd yn helpu Tŷ Newydd i barhau i ysbrydoli a meithrin awduron ledled Cymru a thu hwnt.

Mae Ffrindiau yn derbyn cyfle i archebu cyrsiau cyn i’r rhaglen gael ei lansio, cylchlythyr chwarterol pwrpasol, cynigion arbennig, a buddion eraill megis cyngor ‘sgwennu gan rai o diwtoriaid arbennig Tŷ Newydd.

Rydym wrth ein boddau o gael rhannu cynigion arbennig ar gyfer Ffrindiau Tŷ Newydd gan ein cyfeillion o O’r Pedwar Gwynt a Folding Rock gostyngiad o 10% ar gyhoeddiadau O’r Pedwar Gwynt, a gostyngiad 10% ar danysgrifiadau print, digidol a thanysgrifiad aelodau gan Folding Rock.

Gallwch ddarganfod mwy ac ymuno trwy ymweld â’r dudalen hon, ac os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am Ffrindiau Tŷ Newydd neu gyfleoedd eraill, cysylltwch â ni.