Llenyddiaeth Cymru yn yr Eisteddfod!

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi digwyddiadau amrywiol a chyffrous ar y Maes, sy’n cynrychioli rhychwant ein gwaith – gyda phlant a phobl ifanc, gyda chymunedau amrywiol sy’n cael eu tangynrychioli, wrth ddatblygu a chynnig cyfleodd i awduron, ac wrth ddathlu diwylliant Cymru.
Isod fe welwch fanylion dau brif weithgaredd Llenyddiaeth Cymru yn yr Eisteddfod eleni. Rydym wedi cefnogi prosiectau hyfryd mewn ysgolion lleol yn Wrecsam a fydd yn cael eu dathlu yn y Babell Lên. Cawn hefyd gyfle i dynnu sylw at brif enillydd ein gwobrau cenedlaethol, Llyfr y Flwyddyn.
Bydd ein staff hefyd ar hyd a lled y maes dros yr wythnos ac yn barod i sgwrsio am unrhyw agwedd o’n gwaith, felly cofiwch ddod draw i ddweud helo!
Dydd Sadwrn, 2 Awst
Croeso i Wrecsam!
10.30 am – 11.30 am, y Babell Lên
Dewch i fwynhau croeso twymgalon ar ffurf cerddi di-ri gan blant o bob rhan o’r sir fu’n rhan o weithdai ysgrifennu creadigol yn archwilio eu hardaloedd lleol, gyda Buddug Watcyn Roberts a Rhian Cadwaladr.
Dathlu Llyfr y Flwyddyn
2.45 pm – 3.15 pm, y Babell Lên
Cyfle i ddathlu chwaeroliaeth gyda sgwrs rhwng dwy o enillwyr gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025. Meleri Davies, enillydd y categori Barddoniaeth, fydd yn sgwrsio ac yn holi Prif Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2025 Iola Ynyr, am ei chyfrol fuddugol, ‘Camu’.
Dydd Sul, 3 Awst
Bardd Plant Cymru
10.00 am – 11.00 am, Stondin Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
Gweithdy creadigol gyda’r Bardd Plant Cymru cyfredol, Nia Morais.