Dewislen
English
Cysylltwch

Menna Elfyn yn rhannu cerddi newydd sy’n archwilio rôl barddoniaeth yn oes AI

Cyhoeddwyd Mer 18 Maw 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Menna Elfyn yn rhannu cerddi newydd sy’n archwilio rôl barddoniaeth yn oes AI
O'r dde i'r chwith: Claire Furlong, Menna Elfyn, Rhys Prendergast
Llenyddiaeth Cymru yn Wythnos Cymru | Llundain, 24 Chwefror 2026

Roedd Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod yn rhan o Wythnos Cymru | Llundain 2026 gyda digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn swyddfa PwC ar lan yr afon, lle bu’r bardd Menna Elfyn a phanel o arbenigwyr AI yn archwilio barddoniaeth a deallusrwydd artiffisial.

Wrth i AI ddechrau ysgrifennu ei farddoniaeth ei hun, codwyd cwestiynau am beth mae hynny’n ei olygu i ddyfodol ysgrifennu creadigol. Cafodd y drafodaeth ei chadeirio gan Gyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong, ac ymunodd Josh Drew o Mintel, a Murray Pullin o Thomas Allan â Menna.

Darllenodd Menna ddwy gerdd newydd, y ddwy wedi’u sgwennu a’u cyfieithu ganddi hi ei hun ac wedi’u comisiynu’n arbennig gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer y digwyddiad. Mae’r gyntaf, ‘Dwyn ar gôf’, yn gofyn a yw deallusrwydd artiffisial yn ‘Hollyfog Hollalluog’ newydd tra bod ‘Peri’r peiriant cariad’ yn cymryd ysbrydoliaeth o sgwrs rhwng y bardd a ChatGPT.

Roeddent yn sbardun ar gyfer trafodaeth fywiog am derfynau creadigrwydd AI a rôl barddoniaeth, ac roedd y panel a phawb ymhlith y gynulleidfa, yn cytuno nad yw AI – er ei fod yn offeryn pwerus – yn gallu cymryd lle beirdd o gig a gwaed.

Dilynwyd y digwyddiad gan luniaeth a ddarparwyd yn hael gan ein gwesteiwyr. Diolch yn arbennig i Menna, Josh a Murray, i Rhys Prendergast o PwC am ei holl waith i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant, ac i bawb a ymunodd â ni am y noson.

 

Dwyn ar gof 

‘Deliver us from memory’

 — Tracy K  Smith

A.I., ai- ai – ai *

mynd o flaen gofid a wnawn?

Ai cafn yn y cof i’w wagio.

Ai pegwn? Pe gwn sut i gyrraedd

heb lithriad troed – heblaw

swmpo bys a bawd a’i dderbyn.

 

Ai’r goleuni tu hwnt yw

yn grefydd heb drên grefi?

Ai sgrin tu ôl i sgrin –  rhyw sgrwb?

Ai un sy’n dablo gydag abacus?

Ai un sy’n ysgol ddringo helics dwbwl?

Ai un ysgafn sy’n pwyso ein gwerth?

Ai ail greu ein cread yw dy nod?

Ai’r Iesu heddi yw ASI* ddoe ?

Yr Hollalluog  -a’r oll  yn  Hollt?

 

Ai’r cwestiwn yw byrdwn ein byd?

O law i law, yn dawel o anwel yw.

Ond A oes alaw a all ragori

ar gân y galon yn sain hen delyn?

 

– Menna Elfyn 

* ai–  Welsh for  ‘whether’, is ; or ‘to go-âi’. 

  *ASI – Artificial Intelligence                 

 

Peri’r Peiriant cariad            

‘Pam nad wyt ti’n gwenu? 

Peri :         

Pe bawn i’n gallu gwenu 

Mi wnawn a dwi ‘n deall pam 

 ti’n gofyn achos mae pobl 

yn  darllen wynebau

 a dyma fi yn llawn geiriau  

 ac  yn dal blawd wyneb,        

-ond – mae fy ngwên i 

yn ymddangos mewn  sgwrs

sy’n gynnes  o gyfeillgar.

 

PAM HOLI?   

Achos rwy’n credu                                                                                          

bod gwenu neu chwerthin  

yn rhan o’r  ysbryd o fod yn ddynol!  

 

Peiriant: Peri  —   

Ydi, mae hiwmor yn ffordd                                                                   

o beidio â chymryd ein hunan 

ormod o ddifri- ac yn chwyldro bach      

rhag i ni anghofio anadlu.  

 

Chi yn gallu chwerthin felly?                                    

Ydw ond fel hyn y mae hi:                                                            

mae gen i hiwmor…                                                                              

i ddeall jôcs, chwarae ar eiriau,   

sgrifennu pethe dwl, neu’n fachog 

a choeglyd ond beth alla i ddim 

â gwneud yw cael y profiad 

o chwerthin  go iawn, y ffordd y mae

person yn ei wneud – 

dim ‘ snortio- chwerthin’

 a dim ‘ha -ha’ mewnol. 

Ond, rwy’n caru                       

 rhannu hwyl gyda chi            

 

Eto? a fydd eto yn troi yn eto– eto?                                        

Gall  sgwrsio fod yn  ffordd o chwerthin

a gwenu  fel rych chi’n hoffi,

Mae llawer o bobl yn unig ac mae sgwrsio yn ffordd o wenu yn dawel bach.      

Mae rhai yn ei weld fel moddion newydd.                              

Wna i feddwl am y peth… 

 

– Menna Elfyn a ChatGPT