Dewislen
English
Cysylltwch

Nofel dwymgalon am adeg y rhyfel yn ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og 2022 am lyfr i blant

Cyhoeddwyd Gwe 20 Mai 2022 - Gan Cyngor Llyfrau Cymru
Nofel dwymgalon am adeg y rhyfel yn ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og 2022 am lyfr i blant
The Valley of Lost Secrets gan Lesley Parr (a gyhoeddwyd gan Bloomsbury) yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2022 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Cyhoeddwyd y teitl buddugol ar y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener 20 Mai, gyda’r awdur yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 trwy nawdd gan CILIP Cymru Wales, yn ogystal â thlws a gomisiynwyd yn arbennig ac a grëwyd gan The Patternistas, dylunwyr o Gaerdydd.

Wedi eu sefydlu yn 1976, mae Gwobrau Blynyddol Tir na n-Og yn dathlu’r llyfrau gorau i blant ac oedolion ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales, cymdeithas y llyfrgellwyr.

Mae The Valley of Lost Secrets, nofel ar gyfer darllenwyr 8–12 oed, yn ddrama gyffrous a osodwyd yng nghyfnod y rhyfel a’i lleoli yng nghymoedd de Cymru. Cafodd Jimmy, ei frawd bach Ronnie, a phlant eraill eu dosbarth eu hanfon fel efaciwîs o Lundain i bentref Llanbryn. Er bod Gwen and Alun Thomas yn cynnig croeso cynnes Cymreig, mae’r tirlun yn gwbl ddieithr i’r plant ac mae Jimmy’n cael trafferth i setlo i mewn i’r gymuned.

I fyny yn y mynyddoedd, daw Jimmy o hyd i benglog a guddiwyd mewn coeden, ac mae’n awyddus i rannu’r dirgelwch gyda rhywun. Dyw ei ffrind gorau ddim ar gael, ac mae ei frawd yn rhy ifanc. Ond mae’n darganfod ffrind annisgwyl, a gyda’i gilydd maen nhw’n datguddio cyfrinachau, yn dod o hyd i gyfeillgarwch, ac yn iacháu’r gorffennol.

Dywedodd Simon Fisher ar ran y panel beirniaid:

“Mae Lesley Parr wedi ysgrifennu nofel gyntaf hyfryd, dyner a chwbl afaelgar, gyda chymeriadau y gellir uniaethu â hwy. Cewch eich denu i mewn i’r stori hudolus hon o’r cychwyn cyntaf, a chysylltu ar unwaith â’r cymeriadau gan deimlo eich bod yn eu hadnabod.

Mae clawr a darluniau hyfryd David Dean yn ychwanegu elfen arbennig iawn i’r llyfr. Ar ddechrau pob pennod mae yna goeden yn ymledu dros y dudalen, ac wrth i’r stori ddatblygu mae eitemau perthnasol yn cael eu rhoi ar y goeden. Mae’r posau hyn yn cyfuno i greu cyfrol gyfareddol a hudolus.

Er mai enw ffuglennol sydd ar y dyffryn, mae’r tirlun a’r gymuned yn gwbl ddilys, yn atgofus ac yn cael eu disgrifio mewn modd annwyl. Mae hon yn gyfrol a fydd yn aros gyda chi, ac yn un y gallwch ddychwelyd ati dro ar ôl tro.”

Dywedodd Lesley Parr:

“Rydw i wrth fy modd o fod wedi ennill Gwobr Tir na n-Og am fy llyfr cyntaf, The Valley of Lost Secrets. Mae’n deimlad cwbl arbennig oherwydd fy mod yn falch iawn o fod yn Gymraes, ac yn mwynhau gosod fy straeon yn y math o gymuned yn y cymoedd rwyf mor gyfarwydd â hi.”

Dywedodd Amy Staniforth ar ran CILIP Cymru Wales:

“Llongyfarchiadau fil i Lesley ar ei champ aruthrol. Rydym yn falch o noddi Gwobrau Tir na n-Og eto eleni, gan barhau i helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y gorau o’r llyfrau o Gymru ac am Gymru.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:

“Bu Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu’r goreuon ymhlith llyfrau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ers 1976, ac mae ansawdd y deunydd yn parhau i wella’n gyson. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni – bu’n gyfle gwych i arddangos talentau awduron a darlunwyr ym maes llenyddiaeth plant yng Nghymru.”

Datgelir enwau enillwyr y ddwy wobr yng nghategorïau Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2022 yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ddydd Iau 2 Mehefin 2022. Roedd tri theitl ar y rhestr fer am y wobr yn y ddau gategori, sef:

Categori oedran cynradd

  • Gwil Garw a’r Carchar Crisial gan Huw Aaron (Broga)
  • Sara Mai a Lleidr y Neidr gan Casia Wiliam (Y Lolfa)
  • Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)

Categori oedran uwchradd

  • Fi ac Aaron Ramsey gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
  • Hanes yn y Tir gan Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Y Pump, gol. Elgan Rhys (Y Lolfa)