Dewislen
English
Cysylltwch

Prosiect arloesi Tir a Llên Cymreig Llenyddiaeth Cymru yn derbyn cefnogaeth Clwstwr 2020

Cyhoeddwyd Gwe 11 Medi 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Prosiect arloesi Tir a Llên Cymreig Llenyddiaeth Cymru yn derbyn cefnogaeth Clwstwr 2020
Mae prosiect Tir a Llên Cymreig Llenyddiaeth Cymru wedi ei ddewis fel un o 33 o brosiectau arloesedd newydd a fydd yn derbyn nawdd 2020 Clwstwr.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch o gael ein dewis ar gyfer carfan greadigol 2020 Clwstwr. Bydd y garfan ddiweddaraf o bobl greadigol yn mynd i’r afael â set amrywiol o heriau – profi technegau fideo fertigol, archwilio ffurfiau o rith-gynhyrchu a gwella’r defnydd o ynni yn y diwydiannau sgrin. Mae gwaith yn cael ei wneud hefyd i wneud newyddion yn fwy hwylus i gynulleidfaoedd ehangach – gan gynnwys plant, pobl amryfal eu nodweddion niwrolegol a’r rhai sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol. Mae prosiectau buddugol hefyd yn ymwneud â sectorau gan gynnwys gofal iechyd, trafnidiaeth a thwristiaeth.

 

Bydd prosiect nawdd Clwstwr Llenyddiaeth Cymru, Tir a Llên Cymreig, yn ymchwilio ac yn dadansoddi hyfywedd masnachol cynnwys gêm fideo newydd wedi ei selio ar chwedlau Cymreig. Gan ganolbwyntio ar ddiddordeb y rheiny sydd yn chwarae gemau fideo sydd yn seiliedig ar ffantasi a chwedlau, byddwn yn dadansoddi’r galw am ddeunydd newydd – celf, animeiddiadau, ailddyfeisiadau o storïau – wedi eu datblygu gan awduron, artistiaid a datblygwyr gemau Cymreig. Bydd mewnwelediad cwsmeriaid yn cael ei ddadansoddi er mwyn arddangos potensial marchnata o gynnwys Gwlad y Chwedlau sy’n bodoli’n barod, ar gyfer addasiad gêm fideo. Bydd Llenyddiaeth Cymru hefyd yn ystyried sut y gallwn gyrredd a deall cynulleidfaoedd newydd yn well trwy gemau fideo, gan ddarparu gwelliannau llesiant i glieintiaid na fyddai fel arall yn ymwneud â’r chwedlau na llenyddiaeth Cymru.

 

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr y Clwstwr:

 

“Mae’n gyffrous cael cyfle i helpu i wireddu’r fath amrywiaeth o syniadau, a buddsoddi yn y fath amrywiaeth o dalentau. “Mae gennym ni gwmnïau o feysydd ffilm a theledu, gemau, technoleg drochol, newyddiaduraeth, y theatr, gwyliau, ynni gwyrdd, gofal iechyd, cerddoriaeth, celf weledol a llawer o sectorau creadigol eraill yn dod at ei gilydd gan rannu uchelgais i wneud Cymru’n arweinydd o ran arloesedd cyfryngol.

Wrth i’r diwydiannau creadigol geisio cryfhau ar ôl Covid-19, bydd arloesedd o’r fath yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol cadarnhaol i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.”

 

Yn ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant:

 

“Mae ein buddsoddiad sylweddol yn Clwstwr yn dangos yr hyder sydd gennym yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, sy’n prysur ddatblygu’n ganolbwynt i greadigrwydd yn y DU. Gyda lwc, gall y garfan newydd hon o brosiectau ddatblygu i fod yn ganolbwynt ar gyfer arloesedd creadigol yn y ddinas ac, yn ei thro, arwain at lwyddiannau masnachol newydd.

Nawr, ac yn y dyfodol, bydd y diwydiannau creadigol yn sbardun economaidd-gymdeithasol hollbwysig wrth i ni geisio gwthio Cymru y tu hwnt i egin gwyrdd y ffyniant a welsom cyn y pandemig.”

 

Ariennir Clwstwr trwy Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol ac mae’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.

I ddarganfod mwy am yr holl brosiectau sy’n rhan o’r garfan, ewch draw i wefan Clwstwr yma.

aw i wefan Clwstwr yma.