Dewislen
English
Cysylltwch

Rhaglen Gyrsiau Tŷ Newydd 2026: Dod â sêr y byd llenyddol i Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd Llu 27 Hyd 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhaglen Gyrsiau Tŷ Newydd 2026: Dod â sêr y byd llenyddol i Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi Rhaglen Gyrsiau Preswyl Tŷ Newydd 2026. Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, ac yn ein cartref eiconig, rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau undydd, penwythnos ac wythnos yn ystod y flwyddyn. Yn 2026, bydd y rhaglen yn cynnwys cyfuniad o genres a themâu, yn y Gymraeg ac yn Saesneg, a rhestr drawiadol o awduron arobryn fydd yn ymuno â ni fel tiwtoriaid a darllenwyr gwadd.

“Rhywbeth fuodd o fudd mawr i mi ar fy nhaith fel sgwennwr oedd mynychu cyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ac mi faswn i’n eich annog chithau i wneud yr un peth.”

 – Rhian Cadwaladr

Rydym yn falch o gyflwyno rhaglen amrywiol a chyfoethog arall sydd â rhywbeth i bawb. Mae’n cynnwys ffuglen werin, trosedd, ffuglen hanesyddol, ffuglen i bobl ifanc, chwedleua, a mytholeg. Yn ganolog i’r rhaglen eleni mae detholiad arbennig o gyrsiau ysgrifennu creadigol trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda phwyslais ar farddoniaeth, ffuglen, a chofiannau creadigol, mae’r rhain yn adlewyrchu cryfder ac arloesedd llenyddol awduron cyfoes Cymru.

Mae cyrsiau ar gael i’w harchebu nawr trwy wefan Tŷ Newydd.

Cyrsiau Cymraeg:

  • Cwrs Cynganeddu – Bydd yr archdderwydd, Mererid Hopwood yn dychwelyd unwaith eto i arwain y cwrs poblogaidd yma ochr yn ochr â Tudur Dylan. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n newydd i’r grefft neu’n awyddus i ddyfnhau eu dealltwriaeth.
  • Ysgrifennu Ffuglen Hanesyddol – Wedi’i arwain gan yr awdures a’r academydd Angharad Price, bydd y cwrs hwn yn archwilio technegau ffurfio byd hanesyddol atyniadol gyda geiriau.
  • Ysgrifennu ar Ynys Enlli – Ar ôl taith lwyddiannus yn 2024, byddwn unwaith eto’n mentro dros y Swnt i Ynys Enlli ar gyfer y cwrs dwyieithog arbennig hwn dan ofal yr ecolegydd a’r bardd, Elinor Gwynn.
  • Ymdawelu wrth Ysgrifennu – Cwrs barddoniaeth ysbrydoledig wedi’i arwain gan Meleri Davies, enillydd categori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2026, yn archwilio’r cysylltiad rhwng barddoniaeth â lles meddyliol.
  • Hunan-archwilio a hel atgofion (ffeithiol greadigol) – Bydd Malachy Edwards yn rhannu ei brofiadau a’i dechnegau i ganfod y naratif yn eich straeon personol.
  • Dathlu tirwedd Cymru – Cwrs unigryw dan arweiniad Carwyn Graves, yn canolbwyntio ar gyfleu tirwedd a diwylliant Cymreig – o’u bywyd gwyllt i’w pobl- mewn modd llenyddol.
  • Cyfieithu Creadigol – Dysgwch y grefft hynod o gyfieithu llenyddol gydag Esyllt Lewis fydd yn dathlu pwysigrwydd greddf ac empathi cyfieithwyr wrth iddynt bontio ieithoedd a diwylliannau.
  • Ysgrifennu o’r Galon – Cwrs llawn hwyl gyda Gwenllian Ellis, enillydd Gwobr Dewis y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2024. Cwrs perffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau ysgrifennu mewn modd mwy personol a datblygu llais sy’n driw i’w hunain.

 

Yn ogystal â’n cynnig iaith Gymraeg, mae rhaglen 2026 yn cynnwys detholiad eang o gyrsiau Saesneg gyda rhai o awduron mwyaf nodedig Cymru, y DU a thu hwnt, gan gynnwys:

  • Dechrau eich Nofel – gyda Mark Haddon (awdur The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, a enillodd 17 gwobr lenyddol) a Rachel Joyce (a enwebwyd am Wobr MAN Booker am The Unlikely Pilgrimage of Harold Fry), gyda David Nicholls (enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Galaxy am One Day ac un o awduron rhestr hir Gwobr MAN Booker am Us) yn ymuno fel darllenydd gwadd.
  • Ysgrifennu’r Corff (Barddoniaeth) – gyda golygydd Poetry Wales a golygydd barddoniaeth Seren Books, Zoë Brigley, yr artist amlddygybledig Rupinder Kaur Waraich, a Polly Atkin fel darllenydd gwadd.
  • Ffuglen Cwiar – Triawd pwerus yn cynnwys Julia Armfield (enillydd Gwobr Polari ac ar restr fer Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times am Our Wives Under the Sea), Leone Ross (awdur This One Sky Day ac ar restr hir Gwobr Ffuglen y Menywod a Gwobr Ondaatje), a’r darllenydd gwadd Sarah Waters (wedi’i henwebu ar restr fer Gwobr Booker MAN am Fingersmith, The Night Watch ac am The Little Stranger).
  • Ysgrifennu’r Hunan – Cwrs myfyriol yn canolbwyntio ar ysgrifennu gwaith ffeithiol greadigol o dan arweiniad Amy Liptrot (enillydd Gwobr Wainright a Gwobr PEN Ackerley am The Outrun) a Horatio Clare (enillydd Gwobr Somerset Maugham am Running for the Hills).
  • Ysgrifennu’r Profiad Dosbarth Gweithiol  – Gyda Kerry Hudson (awdur Lowborn, a enillodd Gwobr Portico) a Graeme Armstrong (enillydd Gwobr Betty Task a gwobr Somerset Maugham am The Young Team), gyda Anthony Shapland o Fargoed yn ymuno fel darllenydd gwadd.
  • Bod yn Ddewr yn eich Ysgrifennu  (Ffuglen) – Gyda Cynan Jones (enillydd Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn Cymru a Gwobr Jerwood Fiction Datgeledig am The Dig) a James Scudamore (enillydd Gwobr Somerset Maughan am Heliopolis), ynghyd â’r darllenydd gwadd Eimear McBride (enillydd y Women’s Prize for Fiction am A Girl is a Half-formed Thing).

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys pedwar encil di-diwtor fydd yn dilyn y tymhorau. Bydd y rhain yn cynnig y cyfle perffaith i ganolbwyntio ar brosiectau eich hunain mewn awyrgylch heddychlon a chefnogol. Bydd gostyngiad arbennig ar gael i’r rheiny sy’n archebu mwy nag un encil.

Yn ogystal, cynigir encil strwythuredig arbennig o’r enw Cwrdd â’r Asiant gyda’r asiant llenyddol arobryn Cathryn Summerhayes (Curtis Brown). Bydd yr wythnos hon yn cyfuno gweithdai, sesiynau un-i-un a digon o amser i ysgrifennu ar liwt eich hunain.

 

“Un o’r llefydd pwysicaf ar fy nhaith iaith, barddoni, ac i ddarganfod fy Nghymreictod. Lle ysbrydoledig ac ysbrydol. Diolch.”

– clare e. potter

Fel rhan o ymrwymiad Llenyddiaeth Cymru i sicrhau bod Tŷ Newydd mor hygyrch â phosibl, cynigir ysgoloriaeth ariannol ar gyfer pob cwrs yn 2026. Mae’r broses ymgeisio’n syml ac ar agor i’r rheiny na allant fforddio ffi llawn y cwrs. Ceir mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Bydd rhaglen 2026 yn rhedeg o fis Mawrth 2026 – Ionawr 2027.

Gweler y rhestr lawn o gyrsiau ar wefan Tŷ Newydd. Edrychwn ymlaen at eich croesawu!