Seran Dolma yn Cipio Gwobr Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru

Roedd Seran yn un o’r criw talentog a lwyddodd i ennill lle ar gwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ôl yn 2019 dan arweiniad Manon Steffan Ros a Jac Jones, a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru. Yna yn gynharach eleni, cafodd ei derbyn ar Gynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru ar gyfer awduron ar ddechrau eu gyrfa.

Bydd Seran yn derbyn gwobr ariannol gan y Cyfeillion, ynghyd â chyfle am gyngor ar sut i ddatblygu ei gwaith yn nofel ar gyfer ei chyhoeddi.
Wrth siarad am gystadleuaeth y Cyfeillion, dywedodd Seran Dolma:
“Rydw i mor ddiolchgar i Gyfeillion y Cyngor Llyfrau am y cyfle yma, ac i’r beirniaid am ddewis ‘Y Nendyrau’ fel enillydd y gystadleuaeth. Mae’n hwb anferth i fy hyder i fel awdur, ac yn rhoi gobaith i mi bod yna farchnad i’r nofel ac y bydd yn bosibl ei chyhoeddi yn y pen draw.
Mae’n rhaid i mi gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i Lenyddiaeth Cymru ac i fy mentor, Lleucu Roberts.
Rydw i’n parhau i weithio ar y nofel, ac rwy’n anelu at gael drafft o’r gwaith ysgrifenedig yn barod cyn y Nadolig. Mae yna elfen weledol hefyd, fydd efallai’n cymryd ychydig yn hirach, ond dwi’n gobeithio y bydd yr holl waith wedi ei gwblhau yn fuan yn 2021.”
I ddarllen rhagor am y stori hon, ewch draw i wefan Cyngor Llyfrau Cymru.