Dewislen
English
Cysylltwch

Seran Dolma yn Cipio Gwobr Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru

Cyhoeddwyd Maw 29 Medi 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Seran Dolma yn Cipio Gwobr Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru
Cyhoeddwyd heddiw, dydd Mawrth, 29 Medi 2020, mai Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru.

Roedd Seran yn un o’r criw talentog a lwyddodd i ennill lle ar gwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ôl yn 2019 dan arweiniad Manon Steffan Ros a Jac Jones, a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru. Yna yn gynharach eleni, cafodd ei derbyn ar Gynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru ar gyfer awduron ar ddechrau eu gyrfa.

Llun Andrew Cockerill / Llenyddiaeth Cymru

Bydd Seran yn derbyn gwobr ariannol gan y Cyfeillion, ynghyd â chyfle am gyngor ar sut i ddatblygu ei gwaith yn nofel ar gyfer ei chyhoeddi.

Wrth siarad am gystadleuaeth y Cyfeillion, dywedodd Seran Dolma:

“Rydw i mor ddiolchgar i Gyfeillion y Cyngor Llyfrau am y cyfle yma, ac i’r beirniaid am ddewis ‘Y Nendyrau’ fel enillydd y gystadleuaeth. Mae’n hwb anferth i fy hyder i fel awdur, ac yn rhoi gobaith i mi bod yna farchnad i’r nofel ac y bydd yn bosibl ei chyhoeddi yn y pen draw.

Mae’n rhaid i mi gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i Lenyddiaeth Cymru ac i fy mentor, Lleucu Roberts.

Rydw i’n parhau i weithio ar y nofel, ac rwy’n anelu at gael drafft o’r gwaith ysgrifenedig yn barod cyn y Nadolig. Mae yna elfen weledol hefyd, fydd efallai’n cymryd ychydig yn hirach, ond dwi’n gobeithio y bydd yr holl waith wedi ei gwblhau yn fuan yn 2021.”

I ddarllen rhagor am y stori hon, ewch draw i wefan Cyngor Llyfrau Cymru.