Dewislen
English
Cysylltwch

Sgwad ’Sgwennu Genedlaethol 2026–2027: Ceisiadau ar agor!

Cyhoeddwyd Maw 4 Tach 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Sgwad ’Sgwennu Genedlaethol 2026–2027: Ceisiadau ar agor!
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gwahodd awduron ifanc ledled Cymru i wneud cais i fod yn rhan o Sgwad ’Sgwennu Genedlaethol ar gyfer 2026–2027.

Wedi’i hanelu at bobl ifanc 16–18 oed, dyma gyfle unigryw i awduron yn eu harddegau i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu, gweithio â mentoriaid proffesiynol, a bod yn rhan o gymuned greadigol fywiog. Mae croeso i’r rhai sy’n ysgrifennu yn Gymraeg, Saesneg, neu mewn sawl iaith i ymgeisio. Nid oes angen profiad ffurfiol na helaeth ar ymgeiswyr, dim ond angerdd dros stori dda ac ymrwymiad i’w crefft.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5.00pm, Dydd Llun 15 Rhagfyr 2025
Beth sydd ar gael?

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn:

  • Gweithio’n agos gydag awduron cyhoeddedig a mentoriaid creadigol.
  • Cymryd rhan mewn gweithdai, preswylfeydd a digwyddiadau llenyddol unigryw yn cynnwys aros yn Nhŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, ac ymweld â Gŵyl y Gelli.
  • Rhannu eu gwaith gyda chyfoedion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chael cyfleoedd i rannu eu gwaith gyda darllenwyr dros Gymru gyfan.
  • Meithrin hyder a darganfod eu llais ysgrifennu unigryw.
  • Bod yn rhan o garfan gyfeillgar, gefnogol o bobl ifanc sy’n rhannu’r un diddordebau, a datblygu cyfeillgarwch gydag awduron ifanc eraill o bob rhan o Gymru.

 

Sut i wneud cais

I wneud cais, ewch i dudalen brosiect Sgwad ‘Sgwennu Genedlaethol a chwblhewch y ffurflen fer ar-lein. Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno sampl o’u hysgrifennu (hyd at 1000 o eiriau o ryddiaith neu hyd at 10 cerdd) ac ysgrifennu hyd at 200 gair yn egluro pam y byddent yn awyddus i ymuno â’r Sgwad.

Dim ond 14 lle sydd ar y Sgwad: rhaglen gystadleuol yw hon sydd wedi’i chynllunio i gefnogi awduron ifanc mwyaf addawol Cymru.

 

Lledaenwch y gair!

Anogir ysgolion, clybiau  ieuenctid, llyfrgelloedd ac elusennau i rannu’r cyfle hwn gyda phobl ifanc yn eu rhwydweithiau. Mae posteri a thaflenni ar gael ar gais.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:

“Gwyddom o brofiad fod model y Sgwad ‘Sgwennu yn eithriadol o lwyddiannus. Am dros ugain mlynedd, mae grwpiau o blant a phobl ifanc talentog wedi cymryd rhan mewn rhaglenni datblygu, yn dysgu ac yn cael eu hysbrydoli gan rai o awduron gorau Cymru. Mae nifer o aelodau Sgwadiau ‘Sgwennu’r gorffennol wedi mynd ymlaen i gyhoeddi ac ennill gwobrau, yn llenwi ein silffoedd llyfrau ac weithiau’n mynd ymlaen i arwain gweithdai creadigol eu hunain. Rydym wrth ein boddau ein bod bellach yn ymestyn cyrhaeddiad y Sgwad ‘Sgwennu gyda’r ffurf genedlaethol hon, ac yn falch iawn fod Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â ni i redeg y rhaglen a fydd yn helpu rhai o sêr llenyddol y dyfodol i sgwennu eu pennod nesaf.”

Roedd yr awdur a dramodydd arobryn, Llŷr Titus, yn aelod o Sgwad Sgwennu Gwynedd yn ei arddegau. Mae wedi ennill y Goron a’r Fedal Ddrama yn yr Urdd, wedi ennill Gwobr Tir Na N-Og gyda Gwalia (Gwasg Gomer), ac yn 2023, enillodd Brif Wobr Llyfr y Flwyddyn gyda’i nofel Pridd (Gwasg y Bwthyn). Dywedodd Llŷr:

“Fyddwn i ddim yn lle fyddwn i fel ‘sgwennwr heddiw heb y cyfleoedd, yr anogaeth a’r cyfeillgarwch y cefais i fel un o griw Sgwad Sgwennu Gwynedd. Mi ges i sawl profiad gwerth chweil gan gyfarfod a dysgu wrth draed pob math o awduron a beirdd – yn bennaf oll mi ges i ofod ac amser i sgwennu, i ddatblygu ac i fagu hyder. Dwi’n falch mod i yn ffrindiau o hyd hefo rhai o’r criw hwnnw ac mae magu’r gymuned yna o bobl o’r un anian cyn bwysiced na dim. Dwi’n edrych ymlaen at weld to newydd o ‘sgwennwyr yn cael yr un budd ac y ces i ac yn aros yn eiddgar i weld be ddaw ohonyn nhw.”

Cefnogir y rhaglen hon gan Raglen CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.