Sgwad ‘Sgwennu Genedlaethol: Preswylfa Ysbrydoledig i ‘Sgwennwyr Ifanc

Dros un penwythnos yn Nhŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, cafodd rhai o ysgrifenwyr ifanc mwyaf disglair Cymru eu swyno – tri diwrnod hudolus yn llawn creadigrwydd, cyfeillgarwch, a’r cyffro tawel o ddarganfod eu llais eu hunain. Roedd y breswylfa’n rhan o raglen newydd Sgwad ‘Sgwennu Genedlaethol. Dyma raglen gan Llenyddiaeth Cymru sy’n meithrin 14 o ‘sgwennwyr rhwng 16–18 oed o bob cwr o Gymru.
Cawsant eu dethol yn dilyn galwad agored yn hydref 2025. Roedd croeso i rai sy’n ysgrifennu yn Gymraeg, Saesneg, neu mewn sawl iaith i ymgeisio. Nid oedd angen profiad ffurfiol na helaeth ar ymgeiswyr, dim ond angerdd dros stori dda ac ymrwymiad i’w crefft. Gallwch ddarganfod rhagor amdanynt yma.
Trwy flwyddyn o weithdai, mentora, a phrofiadau creadigol anhygoel, mae’r Sgwad ‘Sgwennu yn cynnig y gofod a’r anogaeth i bobl ifanc i dyfu i fod yn ein sêr llenyddol y dyfodol.
Yn Nhŷ Newydd, daeth yr addewid hwnnw yn fyw.
Dros y penwythnos, camodd aelodau’r Sgwad i fyd a luniwyd gan ddychymyg: heriau ysgrifennu i ymestyn eu creadigrwydd, teithiau cerdded ar hyd llwybrau cyfagos lle mae’r dirwedd yn adrodd ei straeon ei hun, a sesiynau un-i-un gyda’r thiwtoriaid ysbrydoledig Dr Aiysha Jahan a Megan Angharad Hunter. Roedd eu harweiniad yn gynnes, hael, a thrawsnewidiol, gan roi hyder i bob person ifanc archwilio, cwestiynu, a mentro ar y dudalen.
Yn ystafelloedd hanesyddol y tŷ, roedd yna ffrwydradau o ganolbwyntio tawel. Soniodd llawer o aelodau’r Sgwad am gyfnodau lle’r oedd syniadau’n cwympo i’w lle – eiliadau o eglurder oedd yn teimlo’n enfawr. Daeth y penwythnos i ben mewn noson meic agored dathliadol, lle cawsant ddarllen eu gwaith yn uchel, gyda chynulleidfa gynnes yn eu cefnogi ac yn ymfalchïo wrth rannu creadigrwydd.
Pan ddaeth y penwythnos i ben, roedd yr awyrgylch wedi newid. Roedd y siwtcesys yn cael eu pacio’n araf. Roedd sgyrsiau’n ymestyn. Dywedodd rhai eu bod yn dymuno gallent ‘aros yn hirach’, gydag un yn cyfaddef ei bod am aros ‘am fis – efallai am byth’. Mewn dim ond ychydig o ddyddiau, roedd dieithriaid wedi dod yn ffrindiau, ac roedd cymuned wedi ffurfio; un a adeiladwyd ar hyder, arloesedd, ac ar y wybodaeth ysbrydoledig bod eu geiriau’n bwysig.
Roedd preswyl y Sgwad ‘Sgwennu Genedlaethol yn fwy nag encil. Roedd yn drobwynt. Rhywle lle teimlai pobl ifanc eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi, a’u hysbrydoli. Gadawsant yr encil nid yn unig fel awduron cryfach, ond yn rhan o rwydwaith fydd yn dylanwadu ar ddyfodol llenyddiaeth yng Nghymru. I’r criw disglair yma, bydd y penwythnos yn Nhŷ Newydd yn cael ei gofio fel y foment y newidiodd rhywbeth: fflach o’r awen, o ddealltwriaeth, neu’n syml dod i ddarganfod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain yn eu brwdfrydedd dros ddweud straeon.
Cefnogir y rhaglen hon gan Raglen CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.