Dewislen
Eng
Cysylltwch

Sgwennu’n Well | Writing Well: 12 Mis o Ddatblygiad i Ddeg Hwylusydd Llenyddol

Cyhoeddwyd Mer 25 Tach 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Sgwennu’n Well | Writing Well: 12 Mis o Ddatblygiad i Ddeg Hwylusydd Llenyddol
Rydym yn falch o gyhoeddi enwau’r hwyluswyr llenyddol a fydd yn cymryd rhan yn Sgwennu’n Well | Writing Well 2026-2027. 

Rhaglen ddatblygu gan Llenyddiaeth Cymru ar gyfer ymarferwyr llenyddol yw Sgwennu’n Well | Writing Well. Mae’r rhaglen eleni yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr llenyddol, yn benodol ym maes  Iechyd a Llesiant, er mwyn eu llenwi â’r hyder sydd ei angen i gynllunio a chyflawni prosiectau ysgrifennu creadigol yn y gymuned. Mae hon yn rhaglen 12 mis o hyd ar gyfer grŵp o hwyluswyr ar gychwyn neu ganol eu gyrfa, ac mae’n cynnwys sesiynau mentora, cyfres sesiynau hyfforddi arlein, cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, cefnogaeth ôl-ofal a mwy.  

Eleni mae gan y rhaglen ddau opsiwn, ill dau yn cefnogi 5 Hwylusydd Llenyddol yr un.

Bydd Opsiwn 1 yn gweld 5 hwylusydd llenyddol gan gynnwys: Annie Dahl, Etta Morgan, Sarah Wordsworth, Natalia (Tallie) Nikitchyuk a Nicky Hetherington yn mwynhau:

  • 5 sesiwn hyfforddi arlein yn cynnwys hwyluswyr profiadol ac arbenigwyr ar gelfyddydau ar gyfer iechyd a lles (Tachwedd 2026 – Ionawr 2027). Bydd y sesiynau’n ymdrin â Diogelu, Cynllunio Prosiectau, Gwerthuso Creadigol, Codi Arian a mwy.
  • 1 encil penwythnos wyneb yn wyneb dan arweiniad clare e. potter ac Iola Ynyr yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd (26 – 28 Chwefror 2027)
  • Cefnogaeth wedi ei deilwra. Er enghraifft, cyfres o sesiynau mentora gyda ffrind creadigol, neu gyfle i gysgodi hwylusydd creadigol.

Bydd Opsiwn 2 yn gweld 5 hwylusydd llenyddol gan gynnwys: Elemchi Nwosu, Rachel Dawson, Rolant, Tomas, Steph Roberts, and Daisy Green yn mwynhau:

  • 5 sesiwn hyfforddi arlein yn cynnwys hwyluswyr profiadol ac arbenigwyr ar gelfyddydau ar gyfer iechyd a lles
  • 1 encil penwythnos wyneb yn wyneb dan arweiniad clare e. potter ac Iola Ynyr yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
  • Pot o £3000 i ddatblygu, cyflawni a gwerthuso prosiect hwyluso
  • 3 sesiwn gyda mentor/ffrind creadigol
  • Cymorth i werthuso a dogfennu eu prosiect

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu a chefnogi ein carfan newydd o hwyluswyr, ac at ddilyn eu taith drawsnewidiol. Darllenwch ragor am bob un ohonynt, gan gynnwys eu gobeithion am y rhaglen ar dudalen wefan Sgwennu’n Well.