Shorelines and Shipwrecks: Taith Gerdded Alex Wharton, y Children’s Laureate Wales

Gan deithio ar droed o Foelfre i Gaergybi, bydd Alex yn ymweld â chwe ysgol gynradd a llyfrgell yn ystod ei daith. Bydd Alex yn cynnal perfformiadau mewn gwasanaethau ysgol a gweithdai ysgrifennu creadigol i ddysgwyr Blwyddyn 5 a 6. Thema’r gweithgareddau fydd treftadaeth ddiwylliannol y pentrefi arfordirol, er mwyn i’r plant ymdrochi yn y straeon a’r hanesion sydd wedi creu a dylanwadu ar eu bröydd a’u glannau. Fel y clerwyr gynt, bydd Alex yn cerdded o un lleoliad i’r llall, gan rannu cerddi a straeon o’r ysgol y bu’n ymweld â hi’r diwrnod blaenorol.
Ar derfyn y prosiect, bydd dros 350 o ddysgwyr wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol gyda bardd a hwylusydd o safon byd-eang. O ganlyniad i’r prosiect, bydd pob plentyn sydd wedi cymryd rhan mewn gweithdai wedi ysgrifennu cerdd a chael y cyfle i berfformio eu gwaith. Y nod yw y bydd plant yn cael eu hysbrydoli i ddarllen ac ysgrifennu mwy – yn yr ysgol ac yn eu hamser hamdden – ac y bydd athrawon yn hel syniadau newydd am sut i ddod ag ysgrifennu creadigol i mewn i’w cynlluniau dysgu.
Hon fydd ail daith gerdded Alex Wharton yn ystod ei gyfnod fel Children’s Laureate Wales. Ym mis Mehefin 2024, cerddodd Alex 50 milltir o’i gartref ym Mhontypŵl i Dalgarth, gan ysbrydoli dros 530 o ddysgwyr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, drwy gynnal gweithdai a chymryd rhan yn y gwasanaeth boreol.
Dywedodd Alex Wharton, Children’s Laureate Wales: “Rwy’n angerddol dros fyd natur a’n dyletswydd i’w amddiffyn. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut mae llenyddiaeth yn ein hysbrydoli a’n cysylltu, a sut y gall y dirwedd naturiol – ei hanes a’i straeon – ategu hyn. Gall iaith, barddoniaeth a’n cynefin wella a chyfoethogi ein bywydau, a fedra i ddim aros i rannu’r pethau hyn gyda phobl ifanc Ynys Môn.”
Mae gan ymweliadau awduron fanteision mesuradwy i blant, yn enwedig i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae Amlwch a Chaergybi yng ngogledd yr ynys, lle bydd Alex yn ymweld, yn ardaloedd o amddifadedd sy’n uwch na chyfartaledd Cymru (MALlC 2019 – Caergybi).
Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Mae Alex yr un mor angerddol dros hanes a diwylliant Cymru ag y mae o dros rym trawsnewidiol llenyddiaeth. Gall gynnal gweithdai sy’n dathlu treftadaeth hanesyddol a diwylliannol y bobl ifanc y mae’n gweithio â hwy yn hyderus. Mae’n berson chwilfrydig sy’n mwynhau dysgu, yn ogystal â rhannu ei ddawn aruthrol gyda geiriau â phlant ar hyd a lled y wlad. Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn ei daith, ac yn croesi’n bysedd am dywydd ffafriol!”
Mae Alex Wharton yn awdur arobryn a pherfformiwr barddoniaeth sy’n cynhyrchu gwaith i oedolion a phlant. Cyrhaeddodd ei lyfr cyntaf o farddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans (Firefly Press, 2021), restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2022, Gwobrau Llyfrau Athrawon Gogledd Gwlad yr Haf, Gwobrau Llyfrau Laugh Out Loud a chafodd ei enwi fel Darllen a Argymhellir gan y Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol. Enillodd Alex Wobr Rising Stars Cymru yn 2020, a gynhaliwyd gan Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press. Mae wedi cydweithio â sefydliadau cenedlaethol allweddol fel Cadw, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, y British Council a llyfrgelloedd Cymru, ac mae hefyd wedi ymddangos mewn gwyliau fel Gŵyl y Gelli a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin. Alex yw Children’s Laureate Wales 2023-2025. Wedi’i sefydlu yn 2019, dyfernir y rôl bob dwy flynedd i awdur talentog a gweledigaethol o Gymru sy’n angerddol am sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod y manteision llawenydd a lles o ymgysylltu â llenyddiaeth.