Dewislen
English
Cysylltwch

Tir na n-Og 2022: Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru

Cyhoeddwyd Gwe 11 Maw 2022 - Gan Cyngor Llyfrau Cymru
Tir na n-Og 2022: Datgelu’r Rhestr Fer Saesneg ar gyfer gwobr llyfrau plant hynaf Cymru
Drama afaelgar mewn cyfnod o ryfel… chwedlau hynafol wedi’u hadrodd o’r newydd… stori’n myfyrio ar rym iachaol natur a chymeriadau lliwgar o fyd hanes Cymru. Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r teitlau sydd wedi cyrraedd rhestr fer llyfrau Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2022 heno, nos Wener, 11 Mawrth, ar y Radio Wales Arts Show. Mae’r gwobrau eleni yn gymysgedd eclectig o’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2021.

Gwobrau Tir na n-Og ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yw’r gwobrau hynaf a mwyaf poblogaidd o’u bath yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru. Maent yn anrhydeddu ac yn dathlu’r awduron a’r darlunwyr mwyaf creadigol a’r deunyddiau darllen gorau i blant, naill ai yn y Gymraeg, neu drwy gyfrwng y Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys.

Dros y blynyddoedd, mae’r gwobrau wedi’u hennill gan rai o’n prif awduron a darlunwyr gan gynnwys Manon Steffan Ros, Jac Jones a Catherine Fisher. Nod y gwobrau ydy dathlu darllen er pleser ac ysbrydoli dewisiadau darllen i ddarllenwyr ifanc. Trwy’r gwobrau gall plant a phobl ifanc fwynhau a chael eu hysbrydoli gan straeon ac ysgrifennu o Gymru neu am Gymru.

 

Dyma’r rhestr fer ar gyfer llyfr Saesneg gyda dimensiwn Cymreig dilys (4–18 oed):

Welsh Fairy Tales, Myths and Legends gan Claire Fayers (Scholastic, 2021)

‘Llyfr hyfryd yn llawn straeon rhyfeddol, difyr a chyffrous o fyd y tylwyth teg, mythau a chwedlau Cymreig, sy’n cael eu hadrodd o’r newydd gyda chynhesrwydd mawr ac yn llawn hiwmor.’

10 Stories from Welsh History that everyone should know gan Ifan Morgan Jones (darluniau gan Telor Gwyn) (Dragon Press, 2021)

‘Cyflwyniad arbennig i ddeg ffigur allweddol a digwyddiadau yn hanes ein gwlad, gyda’r wybodaeth wedi’i chyflwyno mewn ffordd hynod hygyrch a darllenadwy, gyda darluniau trawiadol.’

Swan Song gan Gill Lewis (Barrington Stoke Ltd, 2021)

‘Llyfr hardd ac emosiynol am rym iachaol natur; er gwaethaf ei dynerwch telynegol a chain, mae iddo neges bwerus am obaith ac adferiad.’

The Valley of Lost Secrets gan Lesley Parr (Bloomsbury Publishing Ltd, 2021)

‘Stori afaelgar wedi’i gosod yng nghymoedd de Cymru mewn cyfnod o ryfel, sydd yn llawn dirgelwch a chynllwynio ond caredigrwydd a chyfeillgarwch yn ogystal.’

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestr fer ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Mae gan y beirniaid sydd ar y Panel Saesneg eleni – Alex Ball (Cadeirydd), Jannat Ahmed, Simon Fisher a Lydia Bundy – brofiad helaeth ac angerdd ynglŷn â llenyddiaeth i blant. Mwy am feirniaid Gwobrau Tir na n-Og 2022

Dywedodd Alex Ball, Cadeirydd y Panel Saesneg:

“Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o broses feirniadu Gwobrau Tir na n-Og eto eleni. Fel llyfrgellydd, mae wedi bod yn braf darganfod awduron a theitlau gyda’r fath amrywiaeth o gynnwys gyda dimensiwn Cymreig dilys, nifer ohonynt mewn lleoliadau braf. Rwyf wedi argymell sawl un o’r teitlau yma i ffrindiau, teulu a darllenwyr ifanc rwy’n eu cyfarfod yn y llyfrgell. Mae bob amser yn braf gallu rhannu teitlau gwych gyda chynulleidfa newydd a rhannu’r cyfle i weld ein diwylliant, ein hanes a’n gwlad yn cael eu hadlewyrchu rhwng cloriau llyfr da.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:

“Eleni eto, mae gennym restr fer o safon uchel – ac rwy’n falch iawn nad oes rhaid i mi ddewis enillydd o blith y detholiad bendigedig yma! Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi bod ynghlwm â chreu’r cyfrolau sydd ar y rhestr fer. Mae’r ffaith fod pedwar llyfr yn hytrach na’r tri arferol yn dweud rhywbeth am y safon eleni – mae hyn yn dyst i nifer y llyfrau gwych oedd yn gymwys ar gyfer y wobr eleni.”

Cyhoeddwyd y rhestrau byrion ar gyfer llyfrau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2022 ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 10 Mawrth.

Mae’r categori ar gyfer llyfrau Cymraeg oedran cynradd yn cynnwys Gwil Garw a’r Carchar Crisial gan Huw Aaron (Llyfrau Broga), Sara Mai a Lleidr y Neidr gan Casia Wiliam (Y Lolfa), a Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts (Atebol).

Y tri llyfr sydd ar y rhestr fer yn y categori oedran uwchradd yw Hanes yn y Tir gan Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch), Y Pump, gol. Elgan Rhys (Y Lolfa), a Fi ac Aaron Ramsey gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa).

Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ddydd Iau, 2 Mehefin, a bydd y teitl Saesneg buddugol yn cael ei ddatgelu ar y Radio Wales Arts Show ar nos Wener, 20 Mai.

Mae manylion pellach am y gwobrau a’r llyfrau sydd ar y rhestr fer ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.