Dewislen
English
Cysylltwch

Tri Preswyliad Afonydd newydd yn llifo drwy gymunedau Cymru

Cyhoeddwyd Iau 18 Meh 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Tri Preswyliad Afonydd newydd yn llifo drwy gymunedau Cymru
Mae tri awdur yn dod â straeon afonydd Cymru yn fyw ym mhennod ddiweddaraf Llên mewn Lle | Lit in Place, rhaglen flaenllaw Llenyddiaeth Cymru sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth â WWF Cymru ac sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur drwy lenyddiaeth.

Eleni, mae’r prosiect wedi troi ei sylw at fywyd ecolegol a diwylliannol afonydd, gyda thri preswyliad blwyddyn o hyd yn cael eu cynnal ar hyd afonydd y Cleddau, y Ddyfrdwy a’r Taf. Y tri awdur preswyl fydd Natasha Borton (Y Ddyfrdwy)Hywel Griffiths (Y Cleddau) Nasia Sarwar-Skuse (Y Taf). 

Cynhelir y preswyliadau o fis Mawrth tan fis Rhagfyr 2026 ac yn ystod y cyfnod hwn bydd y tri awdur yn archwilio’r cysylltiadau rhwng pobl, lle, cof a’r byd naturiol. Mae pob awdur yn gweithredu fel gohebydd creadigol, gan ddogfennu’r realiti sy’n wynebu afonydd Cymru tra hefyd yn dathlu’r bobl a’r sefydliadau sy’n gweithio i’w hamddiffyn a’u hadfer.  

Bydd y preswyliadau’n arwain at weithiau creadigol gwreiddiol sy’n plethu lleisiau cymunedol, dealltwriaeth amgylcheddol ac ymarfer artistig. 

Ymhlith y prosiectau mae Coleddu, dan arweiniad yr awdur Hywel Griffiths ar hyd y Cleddau’n Sir Benfro. Caiff y preswyliad ei ysbrydoli’n bennaf gan dirweddau, hanesion a chymunedau’r afon wrth archwilio’r berthynas rhwng pobl a dŵr, a’r ffyrdd y gall straeon lleol ddyfnhau ein cysylltiadau â’r amgylchedd naturiol. 

Ar hyd y Taf, mae’r awdur Nasia Sarwar-Skuse yn arwain The River as Archive, prosiect sy’n gweld yr afon fel archif fyw o gof ecolegol, diwylliannol a gwleidyddol. Drwy weithdai ysgrifennu creadigol, chwedleua a sgyrsiau gydag ecolegwyr, haneswyr ac arbenigwyr llên gwerin, mae’r preswyliad yn datgelu straeon am ddiwydiant, mudo a newid amgylcheddol, tra’n dychmygu dyfodol newydd i’r afon a’r cymunedau sy’n byw ar ei glannau. 

Yn y cyfamser, mae The Dee a Fi yn cael ei chynnal ar hyd yr Afon Dyfrdwy dan arweiniad Natasha Borton. Drwy ymgysylltu creadigol a chydweithio lleol, mae’r preswyliad yn archwilio sut y gall dyfrffyrdd gysylltu cymunedau a goresgyn ffiniau a grëwyd gan bobl, drwy fyfyrio ar orffennol, presennol a dyfodol yr afon fel adnodd amgylcheddol a diwylliannol hanfodol. 

Ers dechrau’r flwyddyn, mae’r tri awdur wedi bod yn brysur yn gwreiddio eu hunain yn eu cymunedau. Maent wedi mynychu gwyliau a digwyddiadau lleol, siarad â thrigolion am eu profiadau o fyw ochr yn ochr â’r afonydd, trefnu ymweliadau ag ysgolion i ysbrydoli pobl ifanc drwy weithgareddau creadigol, a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol ar draws eu dalgylchoedd. Drwy’r digwyddiadau hyn, mae’r prosiectau’n casglu straeon, atgofion, pryderon a gobeithion a fydd yn helpu i lunio’r ymatebion creadigol terfynol yr awduron.  

Wrth i’r preswyliadau barhau, bydd Llenyddiaeth Cymru yn rhannu diweddariadau, syniadau a chyfleoedd i gymryd rhan. Dilynwch daith Coleddu, The River as Archive a The Dee a Fi ar ein sianeli Facebook ac Instagram drwy ddilyn yr hashnod #LlenMewnLle #LitInPlace drwy gydol y flwyddyn. Bydd pob preswyliad yn arwain at waith creadigol sylweddol newydd a fydd yn cael eu rhannu ar ddechrau 2027 fel dathliad o’r lleisiau, y lleoedd a’r afonydd sydd wedi eu hysbrydoli. 

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect ar dudalen Llên mewn Lle | Lit in Place.