Ymatebion Creadigol

Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau archwiliad ac adroddiad a oedd yn adnabod ac yn trafod henebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladau sy’n gysylltiedig â’r fasnach gaethwasiaeth a’r Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica ac India’r Gorllewin.
Roedd yn cyfeirio rhywfaint hefyd at gerfluniau ac enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â Hanes Pobl Dduon.
Canfu’r archwiliad mai dim ond 7 coffâd sydd i unigolion o dreftadaeth Ddu yng Nghymru. Yn drawiadol, tan 2021, cerflun o grŵp dienw ym Mae Caerdydd oedd yr unig gerflun o bobl Ddu oedd yn bodoli yng Nghymru. Cerflun Betty Campbell oedd y cyntaf ar gyfer unigolyn go iawn.
Ond mae pobl Dduon wedi bod yn cyfrannu at fywyd yng Nghymru ers canrifoedd. Daeth Affricaniaid i Gymru gyda’r fyddin Rufeinig ac yn ystod cyfnod y Tuduriaid, ar drothwy ehangu’r drefedigaeth Brydeinig. Mae Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a oedd yn forwyr, yn deuluoedd, yn weithwyr, yn fyfyrwyr ac yn bobl a oedd yn dianc oddi wrth gaethwasiaeth oll wedi bod yn rhan o’n hanes ond mae coffáu pobl o liw wedi’i esgeuluso.
Er mwyn dechrau cywiro hyn, mae Cadw a Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o fod wedi comisiynu’r bardd Alex Wharton i ymchwilio i nifer o unigolion nodedig ac ysgrifennu amdanynt. Mae Alex wedi cyfleu hanesion ffigyrau amlwg ym myd adloniant, chwaraeon a’r byd academaidd. Gan ddefnyddio barddoniaeth, cân a ffilm, mae wedi creu teyrngedau i Iris de Freitas, Clive Sullivan a Betty Campbell ymysg eraill.
Mae gweithio ar y prosiect hwn gyda Llenyddiaeth Cymru a Cadw wedi bod yn brofiad trawsnewidiol i mi. Mae wedi dangos Cymru fel na welais hi o’r blaen. Mae wedi rhoi gobaith, balchder ac ysbrydoliaeth imi. Mae’r straeon yma’n perthyn i bob un ohonom, ac fy nyletswydd i oedd dathlu’r bobl a’r bywydau a gawsant. Mae’r llwch wedi ei waredu – mae’r enwau yma, a llawer mwy ohonynt, yma i ni edrych yn ôl arnynt, amsugno’r hanesion, a phenderfynu beth yw ein trywydd newydd. Rwy’n hynod ddiolchgar o’r cyfle.
– Alex Wharton
Mae’r darnau hyn yn ddechrau taith i goffáu amrywiaeth ehangach o bobl ac i gydnabod y ffyrdd amrywiol y maen nhw wedi cyfrannu at hanes Cymru.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cadw.