Byddwn yn ysbrydoli cymunedau, yn datblygu awduron, ac yn dathlu diwylliant llenyddol Cymru drwy wneud y canlynol:
- darparu rhagor o gyfleoedd i bobl Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol, a dyfnhau eu heffaith;
- galluogi egin awduron i achub ar gyfleoedd i fireinio a datblygu sgiliau llenyddol amrywiol;
- ehangu ac ymestyn cyrhaeddiad ac enw da awduron Cymru.
Bydd hyn yn creu Cymru sy’n grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.