
Dathlu Enillwyr Llyfr y Flwyddyn
Nos Fawrth 3 Chwefror
6.00 – 7.00 pm
Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
Ymunwch â Iola Ynyr a Carys Davies, enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2025 i drafod eu cyfrolau buddugol ac i drafod effaith cipio’r brif wobr genedlaethol ar eu gyrfaoedd fel awduron. Bydd cyfle i drafod eu datblygiad a’u taith fel awduron, a holi sut mae mynd ati i ysgrifennu a chyhoeddi cyfrol sy’n haeddiannol o deitl Llyfr y Flwyddyn. Bydd hwn yn gyfle i edrych yn ôl yn ar yr haf braf, yn gyfle arall i ddathlu camp Iola a Carys, a thrafod sut all y byd ysgrifennu yng Nghymru baratoi awduron i gyrraedd uchafbwynt fel cipio gwobr o’r fath a chynrychioli llenyddiaeth ein cenedl ar fap y byd. COFRESTRU
Golwg ar Gynllun Iwerddon: Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau
Prynhawn Iau 5 Mawrth
12.00 – 1.00 pm
Iaith y sesiwn: Cymraeg a Saesneg, gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar gynllun Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau Llywodraeth Iwerddon, sydd wedi bod yn helpu artistiaid i ddelio ag incwm ansicr ac i’w hatal rhag gadael y sector am resymau economaidd ers 2022. Mae’r cynllun yn cynnig taliad wythnosol o €325 i 2,000 o artistiaid a ddewiswyd ar hap. Gyda’r cynllun peilot yn dod i ben ym mis Chwefror 2026, bydd hwn yn gyfle i archwilio sut mae’r cynllun yn gweithio, yr effaith y mae wedi’i gael ar artistiaid a’r sector ddiwylliannol yn Iwerddon, ac i drafod sut fyddai cynllun tebyg yn gweithio yng Nghymru.
Bydd y panel yn cynnwys cynrychiolydd o Dîm Ymchwil Incwm Sylfaenol i’r Celfyddydau yn Llywodraeth Iwerddon; yr awdur Gwyddelig, Elaine Garvey, sy’n derbynnydd y cynllun; a Heledd Fychan AS. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan. COFRESTRU