
Sut i fachu asiant
Dydd Mawrth 29 Medi
7.00 – 8.00 pm
Iaith y sesiwn: Saesneg, gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
Siaradwyr: Anwen Hooson a Abi Fellows
Ymunwch â dau asiant llenyddiol am sgwrs agored, ddidwyll am yr hyn sy’n denu eu sylw, yr hyn sy’n gwneud iddynt droi’r tudalennau, a’r hyn mae awduron yn aml ei gamddeall am gyflwyno eu gwaith i asiant a chyhoeddwyr. Dyma yw eich cyfle i glywed dau asiant yn trafod esiamplau o waith a rhai o’r cwestiynau byddwch wedi eu rhannu’n ddi-enw o flaen llaw.
Bydd yr asiantau hefyd yn archwilio rhai o’r camsyniadau am bwysigrwydd lleoliad, ac yn trafod i ba raddau oes angen bod yn Llundain mewn gwirionedd er mwyn ymuno â byd cyhoeddi’r DU, a’r llwybrau sydd ar gael i awduron o Gymru sy’n datblygu eu gyrfaoedd.
Dewch â’ch cwestiynau. Ewch oddi yno gyda gwell ddealltwriaeth o’r hyn y mae asiantau’n chwilio amdano, a sut i roi’r cyfle gorau posibl i’ch gwaith.
Ysgrifennu i Bobl Ifanc: Cyfarfod y Cyhoeddwyr
Dydd Mawrth 27 Hydref
7.00 – 8.00 pm
Iaith y sesiwn: Cymraeg
Siaradwyr: Detholiad o weisg Cymru
Mae cyhoeddi ar gyfer plant a phobl ifanc yn faes bywiog a phwysig o fewn y diwydiant llyfrau Cymraeg. Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn rhoi cyfle i awduron glywed yn uniongyrchol gan gyhoeddwyr am y broses o gyflwyno syniad, datblygu llawysgrif a chyrraedd darllenwyr ifanc. Yn hytrach na chyflwyniadau ffurfiol, bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar gwestiynau ymarferol wedi eu rhannu gan y gynulleidfa o flaen llaw., Bydd y panel yn tdrafod yr hyn mae cyhoeddwyr yn chwilio amdano, sut mae’r farchnad llyfrau plant a phobl ifanc yn datblygu, rôl golygyddion, a’r cyfleoedd sydd ar gael i awduron o Gymru. Bydd y sesiwn yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar fyd cyhoeddi Cymraeg ac yn helpu awduron i ddeall sut i ddatblygu eu gwaith a chreu gyrfa ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
Ysgrifennu i Bobl Ifanc: Cyfarfod y Cyhoeddwyr (Cyhoeddi yn Saesneg)
Dydd Mawrth 3 Tachwedd
7.00 – 8.00 pm
Iaith y sesiwn: Saesneg
Siaradwyr: Detholiad o weisg Cymru
Beth sydd ei angen ei wneud er mwyn cael llyfr i blant neu bobl ifanc wedi’i gyhoeddi, a beth mae cyhoeddwyr yn chwilio amdano ar hyn o bryd?
Mae cyhoeddi llyfrau i blant a phobl ifanc yn un o rannau mwyaf cyffrous a deinamig y diwydiant llyfrau, gyda chyfleoedd cyffrous ar gyfer awduron yng Nghymru sy’n ysgrifennu yn Saesneg.
Ymunwch â chyhoeddwyr blaenllaw a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant ar gyfer gweminar ryngweithiol a difyr sy’n mynd i’r afael â’r chwestiynau mawr awduron. Byddwn yn edrych ar yr hyn y mae cyhoeddwyr yn chwilio amdano, sut mae’r broses gomisiynu yn gweithio a beth all wneud i waith awdur sefyll allan. Ar hyd y ffordd, byddwn yn trafod rhai o’r materion allweddol sy’n wynebu awduron heddiw, o ddod o hyd i’ch cynulleidfa a deall tueddiadau cyfredol i weithio gyda golygyddion, darlunio a meithrin gyrfa gynaliadwy ym maes ysgrifennu i blant a phobl ifanc.
Cewch gyfle i gyflwyno’ch cwestiynau ymlaen llaw. P’un a ydych yn datblygu eich llyfr cyntaf i blant, eisoes gyda llyfr wedi ei gwblhau neu’n awyddus i fynd â’ch gyrfa ysgrifennu i gyfeiriad newydd, bydd y noson hon yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol ym maes cyhoeddi a chael mewnwelediad ymarferol ar sut I ddatblygu eich hun fel awdur i blant a phobl ifanc.
Cyfarfod y Cyhoeddwyr: Sesiwn Diwydiant Rhithiol
Dydd Mawrth 10 Tachwedd
7.00 – 8.00 pm
Iaith y sesiwn: Saesneg
Siaradwyr: Detholiad o weisg Cymru
Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn cynnig trafodaeth fywiog wedi’i siapiogan gwestiynau a gyflwynir gan y gynulleidfa ymlaen llaw, ynghyd â chyngor ymarferol. Drwy ganolbwyntio ar y materion pwysicaf i awduron, bydd y weminar yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru gan ganiatáu i gyhoeddwyr fynd i’r afael â chwestiynau cyffredin mewn modd ystyrlon a chynhwysfawr a chyfeirio awduron at gyfleoedd a chefnogaeth bellach.
Mae’r sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniadau byr gan y gweisg ac yna sgwrs wedi’i hwyluso yn seiliedig ar y cwestiynau mwyaf cyffredin a gyflwynir gan y gynulleidfa ymlaen llaw. Bydd rhan olaf y sesiwn yn canolbwyntio ar gwestiynau gan y gynulleidfa byw, gyda phob cyhoeddwr yn rhannu un darn allweddol o gyngor a cham nesaf i awduron.
Sut dwi’n sgwennu
Dydd Mawrth 17 Tachwedd
7.00 – 8.00 pm
Iaith y sesiwn: Saesneg
Siaradwyr: Alex Wharton, Anthony Shapland, Rachel Dawson
Mae pob awdur yn datblygu ffordd ei hun o weithio, nid oes un ffordd pendant o syniad cychwynnol i ddarn gorffenedig. Yn y sgwrs hon, bydd awduron blaenllaw o Gymru yn rhannu cipolwg gonest ar eu proses greadigol, gan archwilio o ble mae syniadau’n dod, sut maent yn mynd ati i ymchwilio a drafftio, beth sy’n digwydd pan maen nhw’n colli momentwm, a sut maent yn gwybod pryd mae darn wedi’i orffen.
Gan ddod ag awduron yn gweithio mewn sawl genre gwahanol at ei gilydd, bydd y sesiwn yn tynnu sylw at y nifer o ffyrdd gall arfer ysgrifennu esblygu dros amser, p’un a ydych yn cydbwyso ysgrifennu â gwaith arall, ymateb i gomisiynau, neu’n symud rhwng nofelau, barddoniaeth, ysgrifennu ar gyfer y sgrin. Trwy drafodaeth wedi’i siapio gan gwestiynau gan y gynulleidfa, byddwchyn derbyn cyngor ymarferol, ac yn gadael gyda dulliau newydd y gallwch eu defnyddio ym mhrosesau creadigol eich hunain. Bydd y sesiwn yn dathlu’r ehangder ac amrywiaeth o dalent creadigol cyfoes i’w ganfod yng Nghymru wrth atgyfnerthu bod proses pob awdur yn unigryw.