Mae Leo Drayton (fe/ei) yn ysgrifennwr cwiar o Gaerdydd sydd yn ffocysu ei waith ar ei hunaniaeth a’i brofiadau fel dyn traws. Dechreuodd ei yrfa llenyddol pan oedd yn gydawdur ar y nofel ‘Robyn’ gan Iestyn Tyne fel rhan o gyfres pobl ifanc ‘Y Pump’(2021) ac fe wnaeth hefyd cyd-weithio ar y ddrama ‘Dy Enw Marw’ (2024) gan Elgan Rhys a chafodd ei berfformio yn y National Theatre yn Llundain gan Ysgol Gyfun Gwyr, y ddrama Cymraeg cyntaf i gael ei berfformio yno. Mae barddoniaeth Leo wedi ei gynnwys yn ‘Curiadau’ (2023), y flodeugerdd LHDTC+ Cymraeg cyntaf, yn y gyfrol ‘Room/Ystafell/Phong’ (2023) a wnaeth cysylltu awduron cwiar o Gymru a Fietnam, a chyrhaeddodd rownd derfynol y Roundhouse poetry slam yn 2022. Roedd hefyd yn rhan o garfan Cynrychioli Cymru 24-25 ac mae o bellach yn cynnal gweithdai ysgrifennu ‘Pride and Pen’ yn y Queer Emporium yng Nghaerdydd. Mae Leo wedi ysgrifennu nifer o ffilmiau fer gan gynnwys Teth(2024), a wnaeth agor wyl film Iris a chael ei rhaglenni yng ngwyliau ffilm ar draws y byd gan gynnwys BFI Flare (Llundain) a Frameline (San Fransisco), fe wnaeth hefyd ennill nifer o wobrau megis Best LGBTQ+ short NYC Downtown a Best queer short yn Cal Film Festival. Llynnedd fe wnaeth ysgrifennu ei ddrama llwyfan cyntaf, DYNOLWAITH (2025), a wnaeth agor yn y Sherman theatr cyn teithio ar draws Cymru, a chafodd ei gynnwys yn rhestr The Stage o’r 50 drama gorau 2025. Ers hynny mae Leo wedi gweithio fel cyfarwyddwr cysgodol o dan Elan Issac ar Marm’s Spotlight lle gafodd y cyfle i arborfi gyda rol dramatwrg yn ystod y broses dyfeisio.