Mae Jo Heyde yn fardd sy’n dod o Lundain yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae’n treulio rhan helaeth o’i hamser yn Ninbych-y-Pysgod. Dechreuodd ddysgu Cymraeg tua diweddd 2018, a ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe ddysgodd grefft y gynghanedd gan droi at farddoni yn 2021. Cyhoeddodd ei phamffled cyntaf o gerddi, Cân y Croesi, (Cyhoeddiadau’r Stamp) yn 2024, a’i chyfrol, Chwarter Eiliad, (Barddas) yn 2025.
A hi oedd golygydd gwadd y gyfrol, Trysorau’r Nadolig, (Barddas, 2025). Mae’n aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin a thîm talwrn Y Derwyddon. Mae hefyd yn cydlynu prosiect Bardd y Mis BBC Radio Cymru ar ran Barddas. Mae ei cherddi wedi ymddangos yn Ffosfforws 2-7, MODRON 4 ac O Ffrwyth y Gangen Hon, yn ogystal â chylchgrawn Barddas. Roedd yn un o’r pum bardd a oedd hefyd yn deilwng o’r gadair yn Eisteddfod Wrecsam 2025.