Mae Eben yn sgwenwr newydd o Ddyffryn Nantlle, gyda diddordebau ac wedi cynhyrchu gwaith yn amrywio o natur, i gemau fideo, i wleidyddiaeth Cymru, i chwaraeon, i adolygiadau llenyddiaeth.
Mae ei waith wedi ymddangos mewn cylchgronau fel ‘Climber’, ‘Viewpoint’, TGO, ac ‘The Welsh Agenda’ yr Institute of Welsh Affairs. Mae wedi bod yn gyfrannwr rheolaidd at wefan newyddion a sylwebaeth dringo flaenllaw’r DU, UKClimbing.com, Caught by the River, ac mae’n ddyddiadurwr Cefn Gwlad i’r Guardian.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect ffeithiol-greadigol hirdymor sy’n canolbwyntio ar dir a chymunedau Cymru.
Pan nad yw’n ysgrifennu, mae’n gweithio fel ymgyrchydd ac arbenigwr polisi ar gyfer Cyngor Mynydda Prydain yng Nghymru, a gellir dod o hyd iddo yn gwirfoddoli ar gyfer Tir Natur (prosiect ail-wylltio mwyaf Cymru), neu fel llysgennad i’r Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol, neu’n gweithio fel ymchwilydd cynaliadwyedd a chyfieithydd llawrydd.