Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Sarah Ward Clavier

Sarah Ward Clavier

Lleoliad

Canolbarth Cymru

Iaith

English 

Ffurf

FfuglenFfeithiol 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Sarah Ward Clavier yn hanesydd ac yn awdur. Mae ei hysgrifennu academaidd yn canolbwyntio ar hanes yr ail ganrif ar bymtheg, gan gynnwys Rhyfeloedd Cartref Prydain yng Nghymru, hunaniaeth Gymreig, a gwleidyddiaeth. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu am hanes cynnar papurau newydd a’r cyfryngau yng Nghymru a Lloegr, a gwaith menywod yn Swyddfa’r Post yn y cyfnod modern cynnar (1500-1700). Mae Sarah wedi ysgrifennu ffeithiol naratif ar hanes gohebiaeth, wedi siarad ar BBC Radio 4 a Radio Wales, ac wedi bod yn ymgynghorydd hanesyddol ar gyfer cyfres ‘The Union’ BBC 1. Mae hi hefyd yn ysgrifennu ffuglen ac mae ei nofel gyntaf, stori drosedd hanesyddol, yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Cafodd ei magu yng Ngogledd Cymru ond mae bellach yn byw ger Aberhonddu gyda’i gŵr a’i chŵn. Mae hi wrth ei bodd yn ysgrifennu, siarad am hanes ac ysgrifennu Cymru, ac i gwrdd ag awduron eraill. Mae hi wedi addysgu ers bron i 25 mlynedd (!) mewn ysgolion a phrifysgolion, ac mae hi bob amser yn awyddus i siarad am yr hyn y mae hi’n ei garu.