Mae Lleucu Gwenllian yn ddarlunwraig ac awdures o Flaenau Ffestiniog sydd bellach wedi ymgartrefu yn Macedonia. Mae hi wedi darlunio sawl cyfrol Cymraeg i blant gan gynnwys cyfres Gwyliau Gwirion Cwm Cawdel (Gwennan Evans), Llanddafad (Gareth Evans-Jones) a Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy (Myrddin ap Dafydd). Yn 2025 cyhoeddwyd ei nofel graffeg gyntaf, Gwen ac Arianrhod, a enillodd wobr Tir Na N’Og 2026 (catergori Cymraeg uwchradd).