Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Redbrck Productions

Nia Morais

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish , Spanish

Ffurf

BarddoniaethFfuglenPerfformio BarddoniaethPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Awdur, dramodydd a bardd o Gaerdydd yw Nia Morais. Mae hi’n ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg i blant ac oedolion. Nia oedd Bardd Plant Cymru 2023-2025. Nia yw awdur Enwogion o Fri: Bywyd Penderfynol Betty Campbell (Llyfrau Broga, 2023). Cafodd ei drama lawn gyntaf, Imrie, ei greu ar y cyd gyda Theatr y Sherman a Cwmni Fran Wen yn 2023. Hi oedd golygydd O Ffrwyth y Gangen Hon, sef cyfrol o farddoniaeth i fenywod, a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas ym mis Mawrth 2025. Cafodd ei chyfrol barddoniaeth Gymraeg gyntaf, Yn y Freuddwyd (Cyhoeddiadau Barddas), ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2026.

Mae Nia yn gweithio fel awdur a chyfieithydd llawrydd a hefyd fel hwylusydd gweithdai ysgrifennu creadigol i ysgolion a grwpiau cymunedol. Mae hi’n rhedeg gweithdai barddoniaeth a straeon byrion ar gyfer plant ac oedolion o bob oedran.