Dewislen
English
Cysylltwch

Elin Tomos

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

FfeithiolAdrodd Stori 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Elin yn awdur, hanesydd a chynhyrchydd o Eryri. Mae ei gwaith yn archwilio hanes a threftadaeth Cymru trwy fywydau a phrofiadau unigolion a chymunedau, gyda diddordeb arbennig mewn dod â straeon llai adnabyddus i gynulleidfaoedd ehangach.

Mae hi wedi ysgrifennu bron i 50 o erthyglau ar gyfer BBC Cymru Fyw ac wedi cynhyrchu a chyflwyno pedair cyfres hanesyddol i BBC Radio Cymru. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf yn 2020. Mae hi hefyd wedi cyfrannu pennod at lyfr yn nodi 75 mlynedd ers sefydlu Parc Cenedlaethol Eryri.

Ar hyn o bryd mae Elin yn gweithio fel cynhyrchydd yn Cwmni Da, lle mae hi’n parhau i archwilio hanes trwy ysgrifennu, sain a theledu.