Dewislen
Eng
Cysylltwch
Credit: Megan McAdam Photography

Marged Berry

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Marged yn ysgrifennu ffuglen hanesyddol i oedolion yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae ei nofel cyntaf, Nest ferch Rhys, wedi ei lleoli yn Nghymru’r 12fed ganrif ac yn portreadu bywyd Nest o Ddeheubarth tra’n archwilio hunaniaeth, gwytnwch ac asiantaeth mewn cyfnod o wrthdaro gwleidyddol.

Daw Marged o Sir Fôn yn wreiddiol, ac erbyn hyn mae hi’n byw ger Caerwrangon gyda’i gŵr a’u tri mab. Ar ôl derbyn gradd yn y Gyfraith o Brifysgol Manceinion, bu’n gyfreithiwr ac yna’n gweithio ym myd busnes cyn dod yn olygydd creadigol llyfrau plant. Hi yw cyflwynydd y podlediad Sgribls, ble mae hi’n holi awduron am ysgrifennu a’r diwydiant llyfrau yng Nghymru. Mae Marged wedi caru hanes erioed, ac mae hi wrth ei bodd yn darllen ac ysgrifennu ffuglen hanesyddol.