Dewislen
Eng
Cysylltwch

Iola Ynyr

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

Ffuglen, Ffeithiol 

Tagiau

Tiwtor cwrs Tŷ Newydd Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Profiad o Gynnal Gweithgaredd Llenyddol yn y Gymuned Mentor Llenyddiaeth Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Iola yn awdur, dramodwr a hwylusydd creadigol sydd yn hyrwyddo llesiant trwy greadigrwydd. Ei bwriad yw creu gofodau diogel i leisio ein profiadau o’r byd heb gywilydd er mwyn dychmygu dyfodol llawn addewid ac uchelgais.

Enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2025 gyda’i chofiant creadigol, Camu. Sefydlodd ‘Ar y dibyn’ gyda Theatr Cymru sydd yn brosiect ar gyfer unigolion a chymunedau wedi eu heffeithio gan ddibyniaeth.

Mae’n angerddol am wreiddio ei gwaith yn y byd naturiol a darganfod, trwy greadigrwydd, ddulliau cadarnhaol o gysylltu gyda’n hunain ein gilydd a’n hamgylchfyd.

Gweithia fel mentor ac arweinydd ar gyrsiau preswyli i Lenyddiaeth Cymru ynghyd ag asiant creadigol ac aelod o Gonsortiwm Celf Cymru i Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n briofiadol mewn cynnal gweithdai i ysgolion a sefydliadau addysg uwch ynghyd â chyflwyno sesiynau i gymdeithasau a grwpiau llenyddol.

Mae wrthi’n datblygu dwy nofel ar gyfer eu cyhoeddi yn 2027 a 2028.