Dewislen
English
Cysylltwch

Aneirin Karadog

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

Cymraeg , Llydaweg, Ffrangeg, Sbaeneg, Portiwgëeg

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Tiwtor cwrs Tŷ Newydd Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyn Fardd Plant Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Yn fardd, perfformiwr, darlledwr ac ieithydd, mae gan Aneirin Karadog sawl het a phluen ynddi! Enillodd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016 gyda dilyniant o gerddi ar y thema ffiniau. Mae’n aelod o dîm Y Deheubarth yn Ymryson blynyddol y beirdd ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei gerddi caeth: ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, Cadair yr Urdd yng Nghaerdydd 2005 a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2013 gyda’i gyfrol gyntaf O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas) ac yna eto gyda’i ail-gyfrol Bylchau (Cyhoeddiadau) yn Llyfr y Flwyddyn 2017. Mae’n cyd-gyflwyno a chyd-gynhyrchu podlediad Barddol Cymraeg gydag Eurig Salisbury o’r enw ‘Clera’, gyda phenodau newydd yn fisol ers Hydref 2016. Yn 2019 cyhoeddodd gyfrol arall o gerddi, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas) yn ogystal â llyfr am yr iaith Lydaweg, ‘Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg’. Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-15. Mae e hefyd wedi cyfieithu ac addasu dros ddwsin o gyfrolau i blant a phobol ifanc o’r Saesneg a’r ffrangeg i’r Gymraeg.