Dewislen
English
Cysylltwch

Myrddin ap Dafydd

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

BarddoniaethFfeithiolPerfformio Barddoniaeth 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur Tiwtor cwrs Tŷ Newydd Cyn Fardd Plant Cymru 

Bywgraffiad Cymraeg

Magwyd Myrddin ap Dafydd yn Nyffryn Conwy, yn fab i lyfrwerthwyr, ac yn 1980 sefydlodd Wasg Carreg Gwalch. Enillodd gadeiriau’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1990 a 2002 gan arddel ac arbrofi dipyn gyda mesurau traddodiadol. Bu’n Fardd Plant Cymru 2000-2001 ac mae paratoi cerddi i ieuenctid, yn ogystal â chyfrannu at gynnyrch tim Talwrn y Tir Mawr, wedi hogi ei ddiddordeb mewn nifer o fesurau amrywiol. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth i oedolion a phlant. Yn 2019 fe’i urddwyd yn Archdderwydd newydd Cymru.