Dewislen
English
Cysylltwch

Alan Llwyd

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

BarddoniaethFfeithiol 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Bywgraffiad Cymraeg

Mae’r Prifardd Alan Llwyd yn fardd ac yn llenor adnabyddus. Cyhoeddodd nifer helaeth o gyfrolau o farddoniaeth, gan gynnwys dau gasgliad cyflawn, yn ogystal â blodeugerddi, cyfrolau o feirniadaeth lenyddol, cyfrolau ar hanes a diwylliant Cymru a chyfrolau arbenigol ar y gynghanedd. Enillodd y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd ym 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ym 1976. Bu’n gweithio fel swyddog gweinyddol Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod a hefyd fel golygydd y cylchgrawn o 1981 hyd 2011. Yn 2012 dyfarnodd Prifysgol Cymru radd Doethuriaeth mewn Llên iddo, ac fe’i penodwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Coleg y Celfyddydau a Dyniaethau, Prifysgol Abertawe, yn 2013.