Dewislen
English
Cysylltwch

Bethan Gwanas

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

FfuglenFfeithiolPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Tiwtor cwrs Tŷ Newydd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Awdur bron 50 o lyfrau poblogaidd i blant ac oedolion. Arbenigo mewn nofelau a straeon hawdd eu darllen, gydag elfen gref o hiwmor. Bu’n athrawes Saesneg yn Nigeria, cynhyrchydd radio, athrawes Ffrangeg a gweithgareddau awyr agored a dirprwy reolwr Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn cyn dechrau ysgrifennu’n broffesiynol. Addasodd ei nofel gyntaf, Amdani! yn gyfres deledu. Pur anaml yn ennill gwobrau ond enillodd wobr Tir na n-Og am ei llyfrau i’r arddegau yn 2001 (Llinyn Trôns) a 2003 (Sgôr), a Gwobr Goffa T Llew Jones am nofel i blant 10-12 oed gyda Gwylliaid. Cyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005 gyda Hi yw Fy Ffrind. Mae’n ysgrifennu colofn i’r Herald Gymraeg yn y Daily Post ers dros 20 mlynedd a blog am lyfrau plant ers 2013. Mae’n diwtor Cymraeg i oedolion a thrioleg Blodwen Jones yw ei gwerthwr gorau o bell ffordd! Mae’n byw ger Dolgellau ym Meirionnydd, ac yn mwynhau beicio a chwmni cŵn.