Dewislen
English
Cysylltwch

Casia Lisabeth Wiliam

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenPerfformio BarddoniaethAdrodd StoriPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cyn Fardd Plant Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Casia yn angerddol am ysgrifennu, darllen, a geiriau yn gyffredinol. Astudiodd radd mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ble daeth dan ddylanwad beirdd megis Tiffany Atkinson a Damian Walford Davies. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2017-19, a bu’n teithio’r wlad yn cynnal gweithdai barddoniaeth i blant ac yn ysgrifennu cerddi comisiwn i nodi digwyddiadau, pen-blwyddi neu sefydliadau arbennig. Mae wedi addasu dwy o nofelau Michael Morpurgo i’r Gymraeg – Ceffyl Rhyfel (Gwasg Carreg Gwalch, 2010) ac Y Llew Pilipala (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) – ac wedi cyhoeddi gwaith gwreiddiol yn y Gymraeg gan gynnwys nofel i blant yn eu harddegau o’r enw Sgrech y Môr (Gwasg y Lolfa, 2014), dwy stori fer o’r enw ‘Arthur yn Achub y Byd’ a ‘Pedrig y Pysgodyn Pengaled’ (Gwasg Carreg Gwalch, 2015), ac un stori yng nghasgliad Straeon Tic Toc (Gwasg Gomer, 2016). Mae Casia hefyd wedi cyhoeddi cerddi i blant mewn dau gasgliad, Clywch Ni’n Rhuo Nawr (Gwasg Carreg Gwalch, 2017), a Pawen Lawen (Gwasg Carreg Gwalch, 2018) ac yn hwyrach eleni bydd yn cyhoeddi Eliffant yn Eistedd ar Enfys; Gwirioni ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch), canllaw llawn gweithgareddau a chyngor i gael plant i farddoni yn yr ysgol a gartref.