Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Huw Gosling

clare e. potter

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

BarddoniaethFfeithiolPerfformio BarddoniaethAdrodd Stori 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Bardd a pherfformiwr dwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina ar y cyd gyda phumawd jazz. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yn ogystal â chydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Roedd clare yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli ac mae wedi cael sawl preswyliad barddoniaeth gan gynnwys rhai gyda Gŵyl Velvet Coalmine, The Landmark Trust, Wales Arts Review ac Academi Morafaidd, Pennsylvania.

Enillodd Wobr John Tripp am berfformio barddoniaeth  yn 2005 a chymerodd rhan yn  ‘Listening Project’ BBC4 gyda’i thad, yn trafod tarddiad  emosiwn mewn barddoniaeth. Yn 2019, cyfarwyddodd clare y rhaglen ddogfen ‘The Wall a The Mirror’ ar gyfer BBC Wales, lle casglodd straeon pobl o’i chymuned lofaol. Arweiniodd hyn at ymdrech i achub sefydliad y glowyr.

Angerdd mwyaf clare yw gweithio mewn ysgolion ac ar brosiectau cymunedol gydag artistiaid eraill. Ar hyn o bryd mae hi’n mentora artistiaid eraill ac yn gweithio ar sawl prosiect sy’n cyfuno ysgrifennu a llesiant.