Dewislen
English

Huw Aaron

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

FfuglenFfeithiolNofelau GraffegAdrodd StoriPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Huw Aaron yn arlunydd, cartwnydd ac awdur, yn bennaf o lyfrau plant a phobl ifanc.  Dechreuodd fel cyfrannydd cyson i gylchgronau megis Private Eye, The Spectator, Reader’s Digest ag ati, cyn canolbwyntio mwy ar ddarlunio llyfrau. Mae e wedi creu lluniau a chloriau ar gyfer dros gant o lyfrau i blant ac oedolion erbyn hyn, i weisg Cymru, yn ogystal â Penguin, OUP, ac eraill.

Huw yw golygydd y comig poblogaidd, Mellten, cartwnydd BBC Cymru Fyw, cyflwynydd y rhaglen deledu ‘Cer i Greu’, ac mae’n rhannu fideos arlunio ar ei sianel YouTube ‘Y Criw Celf’. Ond ei hoff weithgaredd yw gweu straeon gyda delweddau – heblaw am wario amser gyda’i deulu.