Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Llun gan / Image by: Lowri Russell

Llŷr Gwyn Lewis

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPerfformio BarddoniaethPerfformio 

Tagiau

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Llŷr wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen, ysgrifau ac erthyglau mewn cyfnodolion, gan gynnwys Ysgrifau Beirniadol, Poetry Wales, Taliesin, Llên Cymru ac O’r Pedwar Gwynt. Enillodd Rhyw Flodau Rhyfel (Y Lolfa, 2014), cyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol-Greadigol yn 2015, a chyrhaeddodd ei gyfrol o farddoniaeth, Storm ar wyneb yr haul (Barddas, 2014) restr fer y categori barddoniaeth.

Cyhoeddwyd ei gyfrol o straeon byrion, Fabula, gan Y Lolfa yn 2017. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn yn 2017, ac yn y flwyddyn honno hefyd detholwyd Llŷr yn un o ddeg o Leisiau Newydd Ewrop 2017 gan Ewrop Lenyddol Fyw (LEuL) a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF).

Cafodd ei gynnwys yn rhifyn Cymraeg y cylchgrawn ar-lein, Words Without Borders. Cyhoeddir cyfieithiad Saesneg Katie Gramich o Rhyw Flodau Rhyfel, Flowers of War, gan Parthian yn 2021. Mae hefyd yn mwynhau cyfieithu llenyddiaeth ei hun ac mae wedi cymryd rhan mewn gweithdai yn Latfia, India a’r Alban.

Cyhoeddodd ei bamffled o farddoniaeth, rhwng dwy lein drên, yn ystod y cyfnod clo yn 2020 a detholwyd y bamffled i Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru 2020–21. Ef oedd enillydd y Stôl Ryddiaith Gŵyl AmGen 2020. Mae’n dalyrnwr ac ymrysonwr brwd ac yn aelod o griw Bragdy’r Beirdd yng Nghaerdydd. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda Lowri a’u mab Math.