Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Kristina Banholzer

Rhys Iorwerth

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPerfformio Barddoniaeth 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Bardd ac awdur o Gaernarfon ydi Rhys Iorwerth. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023, a gwobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015 am ei gasgliad, Un Stribedyn Bach. Cyhoeddodd ei gyfrol ryddiaith gyntaf, Abermandraw, yn 2017. Yn 2020, enillodd Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd am ei bamffled, Carthen Denau. Mae’n perfformio’n gyson mewn digwyddiadau llenyddol ledled Cymru, ac yn un o sefydlwyr nosweithiau Bragdy’r Beirdd yng Nghaerdydd a Chaernarfon. Mae hefyd yn dysgu dosbarth cynganeddu ac yn dalyrnwr ac ymrysonwr gyda thimau Dros yr Aber a’r Deheubarth.