Dewislen
English
Cysylltwch

Sian Northey

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Tiwtor cwrs Tŷ Newydd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Sian yn ysgrifennu’n llawn amser. Mae’n cyfieithu, ysgrifennu, golygu a chynnal gweithdai, ac mae wedi cyhoeddi nifer o nofelau i oedolion a phlant, yn ogystal â llên meicro a barddoniaeth. Dewiswyd ei nofel gyntaf, Yn y Tŷ Hwn, ar gyfer ‘Silff Lyfrau’  Cyfnewidfa Lên Cymru ac fe ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth Trwy Ddyddiau Gwydr (Gwasg Carreg Gwalch) ar restr fer barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2014. Dewiswyd Sian i fod yn un o Awduron wrth eu Gwaith, Gŵyl y Gelli yn 2016 a 2017 ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol ddiweddaraf, casgliad o straeon byrion, Cylchoedd, gan Wasg y Bwthyn yn 2020. Enillodd radd doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac mae ganddi ddiddordeb mewn ysgrifennu ac iechyd a llesiant.
Bydd cyfieithiad Saesneg o Yn y Tŷ Hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024 (3TimesRebel Press, cyfieithydd Sue Walton). Yn ystod 2023 bu Sian yn fardd preswyl prosiect Llwybr Cadfan, Esgobaeth Bangor yr Eglwys yng Nghymru, a hefyd yn awdur preswyl yn Ynys Enlli.