Dewislen
English
Cysylltwch

Angela Graham

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish , Ulster Scots

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiol 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Awdures a gwneuthurwr ffilmiau Gymraeg sy’n wreiddiol o Belffast yw Angela Graham. Cyhoeddwyd ei chasgliad straeon byrion A City Burning gan Seren Books ym mis Hydref 2020, gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth i Awdur oddi wrth Llenyddiaeth Cymru. Mae ganddi nofel ar y gweill sy’n delio â gwleidyddiaeth ieithoedd Gogledd Iwerddon gyfoes, a llyfr rhyddiaith /barddoniaeth ar bwnc Bro a Disodli.

Mae ei chasgliad barddoniaeth,All Of Us Here, cerddi am berthnasoedd gwleidyddol a phersonol, dan ystyriaeth. Mae hi’n gweithio ar gasgliad barddoniaeth ar y thema Nadolig. Enillodd y Wobr Gyntaf am Farddoniaeth yng Nghystadleuaeth Ysgrifennu Ulster-Scots gyntaf y Linen Hall yn 2021 ac fe’i hystyrir ymhlith yr awduron cyfoes mwyaf blaenllaw yn yr iaith honno.

Mae ei barddoniaeth wedi ymddangos yn The North, The Honest Ulsterman, Poetry Wales, The Works, The Ogham Stone, The Open Ear, Infinite Rust, The Bangor Literary Journal, Black Bough Poetry (Silver Branch Poet of the Month, Ionawr 2021), The Interpreter’s House, CAP 2020 Anthology, The Lonely Crowd, The Stony Thursday Book ac adran Gogledd Iwerddon o flodeugerdd Places of Poetry a llawer o flodeugerddi eraill, megis The Oldest Music gan Parthian Books 2022 a ‘Romance’ Options’ a ‘Local Wonders’, Dedalus Press; ‘Words From The Brink’ a ‘A470’ gan Arachne Press. Hefyd yn ‘Free Verse: Poems for Richard Price’, Seren Books 2023.