Dewislen
English
Cysylltwch

Claire Fayers

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

Plant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Helo! Rwy’n awdur plant, sy’n ysgrifennu straeon ffantasi sy’n llawn hiwmor. Mae fy llyfrau’n cynnwys The Accidental Pirates (Llyfr y Mis Waterstones, sydd ar y rhestr fer ar gyfer y Children’s Book Award); Storm Hound (enillydd gwobr Tir na n-Og 2020); a Welsh Fairy Tales Myths and Legends (a enwebwyd ar gyfer Medal Carnegie 2022).
Cefais fy magu yng Nghasnewydd, De Cymru. Diolch i’m llyfrgell leol, teithiais ledled y byd, yn ôl i’r gorffennol ac ymlaen i’r dyfodol. Datblygais obsesiwn gydol oes gyda chwedlau a hud, ond rwy’n dal i feddwl mai Cymru yw’r lle gorau i fyw.
Nawr rwy’n byw yng nghanol mynyddoedd Cymru gyda fy ngŵr a’m dwy gath, sy’n siomedig o anhudolus, ond rwy’n eu caru beth bynnag.
Pan nad ydw i’n ysgrifennu, rwyf wrth fy modd yn ymweld ag ysgolion, llyfrgelloedd a gwyliau, gan rannu fy nghariad at straeon ac ysbrydoli darllenwyr ac awduron newydd.