Dewislen
English
Cysylltwch

Hanan Issa

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPerfformio BarddoniaethAdrodd StoriPerfformio 

Tagiau

Bardd Cenedlaethol Cymru Derbynnydd Cynrychioli Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Hanan Issa yw Bardd Cenedlaethol Cymru 2022-25. Mae Hanan yn fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig o Gaerdydd. Mae ei gweithiau diweddar yn cynnwys ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts (Burning Eye Books, 2019) a’i chyfraniadau i Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022) a The Mab (Unbound, 2022), ailadroddiad o straeon y Mabinogi i blant.

Mae ei gwaith wedi’i berfformio a’i gyhoeddi ar blatfformau fel BBC Wales, ITV Wales, Huffington Post, Gŵyl StAnza, Poetry WalesY StampWales Arts Review, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council. Cyd-sefydlodd Hanan y noson meic agored Where I’m Coming From yng NghaerdyddRoedd hi hefyd yn aelod o’r garfan gyntaf o awduron a gymerodd ran yn rhaglen Llenyddiaeth Cymru, Cynrychioli Cymru, yn 2021.