Dewislen
English
Cysylltwch

Taylor Edmonds

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethPerfformio 

Tagiau

Derbynnydd Cynrychioli Cymru Cymru Ni | Our Wales Profiad o Gynnal Gweithgaredd Llenyddol yn y Gymuned 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Awdur, bardd a hwylusydd creadigol o’r Barri yw Taylor Edmunds. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth gyntaf Back Teeth ym mis Medi 2022 gyda Broken Sleep Books. Trwy ei gwaith fel hwylusydd ysgrifennu creadigol, mae Taylor yn angerddol am hyrwyddo’r effeithiau cadarnhaol y gall ysgrifennu creadigol eu cael ar lesiant, yn enwedig ar gyfer cymunedau ymylol. Roedd Taylor yn Fardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 21-22.

 

Amlinelliad Gweithdy Cymru Ni

  • Cyfnod Allweddol: 3 a 4
  • Iaith y gweithdai: Saesneg
  • Lleoliadau posib: Bro Morgannwg a Chaerdydd

 

Teitl: Ysgrifennu er Llawenydd

Mae Ysgrifennu er Llawenydd yn defnyddio barddoniaeth fel ffordd o archwilio sut y gall ysgrifennu gael effaith gadarnhaol ar les cyfranogwyr. Gan ddefnyddio ymarferion ysgrifennu sy’n annog myfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar, bydd dysgwyr yn defnyddio eu hatgofion a’u synhwyrau i roi bywyd i’r pethau a’r lleoedd sy’n dod â llawenydd iddynt. Bydd y gweithdy yn cynnwys cymysgedd o ysgrifennu unigol, trafodaethau ac ysgrifennu grŵp i greu cerdd ddosbarth ar ddiwedd y gweithdy.