Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Llun gan / Image by: Edward Brown

Gwyneth Lewis

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

Cymraeg , Francais

Ffurf

BarddoniaethFfeithiol 

Tagiau

Derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol Cymru o 2005-06. Hi yw awdur y geiriau anferthol ar flaen adeilad Canolfan y Mileniwm. Cyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth yn Gymraeg, ac enillodd Y Llofrudd Iaith (1999) Wobr Llyfr y Flwyddyn. Hi oedd Bardd y Goron yn Eisteddfod Bro Morgannwg (2012). Perfformiwyd ei chyfieithiad o Tempest Shakespeare – Y Storm – yn yr un eisteddfod, ac mae hefyd wedi cyfieithu Medea Euripides. Ei chyhoeddiad mwyaf diweddar yw cyfieithiad, ar y cyd â Rowan Williams, o The Book of Taliesin (Penguin Classics, 2019). Mae’n dysgu yn rheolaidd yn America a derbyniodd MBE yn 2023 am wasanaethau i Llenyddiaeth ac i iechyd meddwl.