Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Laura Piper

Rhys Owain Williams

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiol 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Rhys Owain Williams yn awdur o Abertawe, Cymru. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi mewn cylchgronau ac antholegau, wedi’i berfformio mewn gwyliau ac wedi’i ddarllen ar deledu cenedlaethol. Trwy ei ysgrifennu, mae hefyd wedi ymateb i amryw o gomisiynau artistig, gyda chleientiaid yn cynnwys Art in Site, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Adeiladu Nationwide a GIG Cymru. Mae barddoniaeth Rhys wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg, Groeg a Latfieg, a chyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, That Lone Ship, gan Parthian yn 2018. Mae’n golygu cylchgrawn barddoniaeth amlgyfrwng The Crunch, ac mae’n gyn-Ysgrifennwr Gŵyl y Gelli yn y Gwaith.