Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Morgan Owen

Morgan Owen

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

Tagiau

Bywgraffiad Cymraeg

Bardd ac ysgrifwr o Ferthyr Tudful yn wreiddiol yw Morgan Owen. Yn 2019, enillodd Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd am ei bamffled ‘moroedd/dŵr’ (Cyhoeddiadau’r Stamp). Yr un flwyddyn fe enillodd Her Gyfieithu Cynfnewidfa Lên Cymru/PEN Cymru am gyfieithu dwy gerdd gan Julia Fiedorczuk o’r Bwyleg i’r Gymraeg. Mae wedi bod yn Fardd y Mis Radio Cymru, ac mae wedi ennill Tlws Coffa D Gwyn Evans, a roddir gan Barddas, ddwywaith (2017, 2018). Cyhoeddodd ei ail gyfrol o gerddi, ‘Bedwen ar y lloer’ (Cyhoeddiadau’r Stamp), yn 2019. Yn 2020, hunan-gyhoeddodd bamffledyn tair ysgrif, ‘Ymgloi’. Yr un flwyddyn, derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur gan Lenyddiaeth Cymru i ddatblygu casgliad o ysgrifau am ei dref enedigol. Ddechrau 2021 fe’i dewiswyd i fod yn un o breswylwyr y rhaglen lenyddol Ulysses’ Shelter, a gynhelir gan Literature Across Frontiers. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno enillodd gystadleuaeth yr ysgrif yn yr Eisteddfod Amgen. Bydd pamffledyn o’i gerddi, ‘Ysgall’, yn cael ei gyhoeddi yn 2021 gan Wasg Pelydr.

Mae’n gyfrannydd cyson at gyfnodolion a chylchgronau Cymraeg, ac mae ei waith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau megis O’r Pedwar Gwynt, y Stamp, Barddas. Yn 2018 a 2019 roedd yn rhan o’r rhaglen Awduron wrth eu Gwaith / Writers at Work yng Ngŵyl y Gelli.