Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Sara mia

Jude Brigley

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiol 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Jude Brigley yn awdur ac addysgwr o Maesteg yng Nghwm Llynfi. Roedd hi’n bennaeth cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, yn Brif Arholwr Astudiaethau Cyfryngau yn CBAC, ac yn y pen draw gweithiodd ar ymarfer addysgu arloesol a datblygu athrawon gyda Chonsortiwm Canolbarth y De. Mae hi hefyd wedi gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Llenyddiaeth Cymru.

Derbyniodd wobr “Poetry Trailblazer” gan The Poetry Society, ac roedd hi’n fardd perfformio mewn grwpiau fel Sinister Women a Poetry Unlimited. Mae hi’n olygydd profiadol – e.e. y flodeugerdd Exchanges (Honno) a The Poet’s House (Pont) – yn ogystal â llyfrau addysgol – Investigating Media Studies (Hodder a Stoughton). Roedd ganddi lyfryn barddoniaeth, Labours (Thynks).

Mae ei straeon byrion a cherddi diweddar wedi ymddangos mewn cylchgronau yn y DU a’r UDA, gan gynnwys The Blue Nib, Ink & Nebula, Aubade, The Lake, Otherwise Engaged, Affinity, Ariel Chart, Ghost City Press, a Mojave Arts Review.