Dewislen
English
Cysylltwch

Rob Mimpriss

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

English 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Bywgraffiad Cymraeg

Rob Mimpriss yw awdur pedair cyfrol o straeon byrion – Reasoning, For His Warriors, Prayer at the End a Pugnacious Little Trolls; golygydd Cockatrice Books; ac mae’n adolygu a chyfieithu llenyddiaeth Gymraeg o bryd i’w gilydd. Mae’n gyfrannwr i Land of Change, blodeugerdd y mae Gemma June Howell (Culture Matters, 2022) yn ei golygu a Brush With Fate, detholiad o ffuglen Gymraeg wedi’i gyfieithu i’r Arabeg, ac yn olygydd ar Dangerous Asylums (Prosiect Ymchwil Iechyd Meddwl Gogledd Cymru, 2016), blodeugerdd ffuglen gan Gee Williams, Manon Steffan Ros ac eraill, ynglŷn â hanes Ysbyty Iechyd Meddwl Dinbych. Mae o’n gyn-athro ar gyrsiau ysgrifennu ôl-raddedig ac is-raddedig yng Nghymru a Lloegr, ac yn aelod yr Academi Gymreig.