Dewislen
English
Cysylltwch

Rebecca Thomas

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

FfuglenFfeithiolPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Rebecca Thomas yn awdur a hanesydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion, nofel gampws ddystopaidd o’r enw Y Tŵr gan Sebra yn 2025. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi dwy nofel hanesyddol i oedolion ifanc: Dan Gysgod y Frenhines (Gwasg Carreg Gwalch, 2022); Y Castell ar y Dŵr (Gwasg Carreg Gwalch, 2023). Yn 2022-3, fe’i phenodwyd yn Awdur Preswyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i weithio ar brosiect creadigol yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Ffrwyth y prosiect hwn oedd dwy nofel ffantasi i blant: Anturiaethau’r Brenin Arthur (Gwasg Carreg Gwalch, 2024); Anturiaethau’r Afanc (Gwasg Carreg Gwalch, 2025). Enillodd ei hysgrif gyntaf ‘Cribo’r Dragon’s Brack’ wobr ysgrif O’r Pedwar Gwynt (2021) ac ers hynny mae wedi cyhoeddi ysgrifau pellach yn O’r Pedwar Gwynt ac mewn cyfrolau megis Hi/Hon (Gwasg Honno, 2024). Astudiodd hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn mynd ymlaen i ennill Doethuriaeth ym maes astudiaethau canoloesol yno. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Uwch-ddarlithydd mewn Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyhoeddwyd ei monograff ar hunaniaeth ganoloesol History and Identity in Early Medieval Wales gan Boydell & Brewer yn 2022 ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar wahanol agweddau ar y Gymru ganoloesol.