Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: EMYR YOUNG 2021

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Phil Okwedy yn 58 oed ac yn dod o Sir Benfro. Ac yntau wedi’i eni yng Nghaerdydd i fam o Gymru a thad o Nigeria, mae’n adroddwr straeon sy’n perfformio ar lafar ac yn grëwr chwedlau sy’n seilio’i waith ar ei dreftadaeth ddeuol ac ar ddiwylliannau niferus er mwyn dod o hyd i’r cyfoes yn y traddodiadol. Mae’n perfformio mewn clybiau adrodd straeon yn rheolaidd. Mae ei lyfr cyntaf, Wil & the Welsh Black Cattle, yn cyflwyno cyfres o straeon gwerin Cymreig sy’n ymwneud â mytholeg yr hen borthmyn. Ar hyn o bryd, mae Phil yn cyflawni taith o’i sioe, The Gods Are All Here, ac mae’n ysgrifennu hunangofiant.


Amlinelliad Gweithdy Cymru Ni

  • Cyfnod Allweddol: 3 a 4
  • Iaith y gweithdai: Saesneg
  • Lleoliadau posib: Dros Gymru gyfan

 

Llygad y Meddwl ac Ymarfer Llafar

Yn ystod y gweithdy hwn, bydd dysgwyr yn archwilio straeon a thechnegau llafar ac yna’n defnyddio rhain er mwyn dechrau ysgrifennu eu gwaith eu hunain.