Dewislen
English
Cysylltwch

Gareth Evans

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

Plant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Yn wreiddiol o Benparcau, Ceredigion, mae Gareth bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn sgriptiwr, storïwr ac ymgynghorydd sgript profiadol, mentrodd maes o law i fyd rhyddiaith. Bu’n ffodus i gael ei feithryn gan Wasg Carreg Gwalch, a chyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer yr arddegau, Gethin Nyth Brân, restr fer Gwobr Tir na n-Og, 2018. Ers hynny bu’n gweithio ar drioleg hanesyddol wedi ei lleoli yn Britonia, y wladfa led anhysbys honno oedd yn fath o Lydaw fechan yng ngogledd Sbaen yn y 6ed ganrif. Mae’r ddwy nofel gyntaf, Y Pibgorn Hud ac Y Ferch o Aur eisoes wedi ymddangos. Cyhoeddir y trydedd rhan yn 2024. Cyhoeddwyd hefyd gyfieithiadau Saesneg o’i waith, gan y nofelydd Jane Burnard: The Magic Hornpipe a Running Out of Time.